CASCADE logo

Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE)

Nod Y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) yw gwella llesiant, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd. Rydym yn ymwneud â phob agwedd ar ymatebion cymunedol i anghenion cymdeithasol plant a theuluoedd, yn cynnwys gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau plant mewn angen, amddiffyn plant, plant sy’n derbyn gofal a mabwysiadu.

Beth mae CASCADE yn ei wneud:

  • Cynhyrchu tystiolaeth ymchwil sylfaenol a gydnabyddir yn rhyngwladol
  • Gwneud ein hymchwil yn hygyrch i bawb; gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau, gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisi.
  • Ymgysylltu ag ystod o gydweithredwyr yn y maes ymchwil, gan gynnwys plant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr, llunwyr polisïau a darparwyr gofal cymdeithasol o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.