Hanfodion Pen Ymchwilwyr
Amlinelliad o’r Cwrs:
Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer y rheini sy’n newydd i rôl Pen Ymchwilydd neu sydd â diddordeb mewn dod yn Ben Ymchwilydd. Mae’r cwrs yn diffinio cyfrifoldebau Pen Ymchwilydd sy’n arwain gwaith cynnal astudiaeth ar safle ymchwil ac mae’n dangos y sgiliau a’r ymddygiadau sy’n ofynnol i fod yn Ben Ymchwilydd effeithiol.
Mae’r cwrs hwn yn rhagdybio bod mynychwyr eisoes yn gweithio mewn amgylchedd ymchwil a’u bod wedi cwblhau Cyflwyniad i Arfer Clinigol Da o’r blaen.
Hyd y Cwrs
1 awr
Manylion y cwrs
Fe fydd y cwrs e-ddysgu hwn yn disgrifio:
-
Cyfrifoldebau Pen Ymchwilydd
-
Pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol ar safle astudiaeth
-
Yr offerynnau y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau arfer gorau
-
Lle i gael cefnogaeth ychwanegol
Bydd fformat y cwrs yn rhyngweithiol ac mae’n cynnwys cwis i gynorthwyo â’r dysgu
Ar ôl yr hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr:
-
Yn gallu diffinio cyfrifoldebau Pen Ymchwilydd
-
Cydnabod beth sy’n gwneud Pen Ymchwilydd effeithiol
-
Deall y sgiliau a’r ymddygiadau sy’n ofynnol i fod yn Ben Ymchwilydd effeithiol, a myfyrio ynglŷn â’r rhain
Ardystiad CPD
Mae’r hyfforddiant yma wedi ei ardystio gan y Gwasanaeth Ardystio CPD.
Pwyntiau CPD/1 awr
Mae’r wybodaeth, y cynnwys a’r deunyddiau sydd ar gael yn yr hyfforddiant hwn at ddibenion gwybodaeth gyffredinol. Er ein bod yn ymdrechu i sicrhau bod y wybodaeth yn gyfoes ac yn gywir, mae bob amser yn beth call gwirio’r canllawiau diweddaraf.
Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau yn ystod yr hyfforddiant, cysylltwch â'r tîm hyfforddi