"Roedd yn cŵl iawn": mae'r ferch 13 oed gyntaf yng Nghymru i gael y brechlyn COVID-19 yn annog eraill i gymryd rhan mewn ymchwil
Mae Isabel Hodgson yn fyfyrwraig 13 oed yng Ngholeg Sant Ioan, Caerdydd, sy'n mwynhau gweld ei ffrindiau, marchogaeth ei cheffyl, a gwylio fideos ar TikTok. Mae hi newydd wneud y penderfyniad anodd am y pynciau i'w hastudio ar gyfer ei TGAU: hanes, busnes, Lladin a Chymraeg. Ond roedd cymryd rhan mewn ymchwil i frechlynnau COVID-19 y llynedd yn benderfyniad hawdd.
Gwirfoddolodd ar gyfer astudiaeth y Glasoed COMCOV yn Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd, a edrychodd ar sut yr effeithiodd gwahanol ddosau o frechlynnau COVID-19 ar blant rhwng 12 ac 16 oed. Drwy'r astudiaeth hon, Isabel oedd y person cyntaf o dan 16 oed i gael ei frechu yng Nghymru. Mae'r holl ymchwil COVID-19 a gyflwynir yng Nghymru wedi ei sefydlu a'i chyflwyno gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hi'n byw ym Mhenarth gyda'i rhieni ac mae ganddi geffyl o'r enw Bolt.
Dywedodd Isabel: "Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am ymchwil iechyd cyn i mi gymryd rhan yn y treial brechlyn COVID-19. Roeddwn i'n gwybod bod ymchwil yn helpu meddygon a gwyddonwyr i ddod o hyd i wellhad newydd ar gyfer afiechydon ond doeddwn i ddim yn gwybod y gall pobl fel fi wirfoddoli i gymryd rhan.
Cyfle gwych
"Dywedodd Mam wrthyf eu bod yn cynnal treial brechlyn ar gyfer pobl fy oedran i a dywedodd y gallai fod yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ymchwil. Roeddwn i'n hoffi'r syniad o wneud rhywbeth i helpu'r ymchwilwyr a chael fy mrechlyn yn gynt nag eraill ond doeddwn i ddim yn sylweddoli mai fi fyddai'r cyntaf!
"Dim ond unwaith o'r blaen rwyf i wedi bod i’r ysbyty, felly roedd hi braidd yn rhyfedd mynd yno ar gyfer y treial ond roedd pawb mor gyfeillgar. Gwyliais fideo a ddywedodd beth fyddai'r treial yn ei gynnwys a pham ei fod yn bwysig. Rhoddodd ddealltwriaeth dda i mi o beth fyddai’n digwydd a gwnaeth i mi deimlo'n eithaf balch fy mod i’n cymryd rhan. Yn gyntaf, roedd yn rhaid iddyn nhw sicrhau fy mod i’n iach felly fe wnaethon nhw ofyn cwestiynau am fy hanes meddygol a gwneud prawf gwaed. Roedd yn gyflym ac yn hawdd iawn.
"Roedd cael y brechlyn yn gyffrous oherwydd roeddwn i’n gwybod o hynny ymlaen y byddwn i'n llawer mwy diogel. Doeddwn i ddim yn nerfus am gael fy mrechu a dydy nodwyddau ddim yn fy mhoeni i. Roeddwn i'n fwy nerfus am ddal y feirws neu ei drosglwyddo i rywun. Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl pan ddywedodd y nyrs wrthyf mai fi oedd y person cyntaf fy oedran i i gael ei brechu. Roedd yn syndod mawr ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn cŵl iawn."
Gwneud rhywbeth pwysig
Cafodd Isabel y brechlyn Pfizer yn yr Uned Ymchwil Plant ac Oedolion Ifanc, yr unig uned ymchwil bwrpasol ar gyfer plant dan 18 oed yng Nghymru. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn parhau i gefnogi'r gwaith o gyflawni ymchwil COVID-19 ac mae'n ariannu arweinydd ag arbenigedd pediatrig i hyrwyddo astudiaethau sy'n cynnwys plant yn y GIG yng Nghymru.
Ychwanegodd Isabel: "Rwy'n falch iawn fy mod i wedi cymryd rhan yn y treial brechlyn. Pe bawn i'n cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil, byddwn i bendant yn ei wneud eto. Roedd yn anhygoel bod y person cyntaf fy oedran i i gael y brechlyn ond roeddwn i hefyd yn hapus i allu gwneud fy rhan i helpu'r ymchwilwyr i gael gwybod mwy am sut mae'r brechlyn yn gweithio.
"Roedd yn teimlo fel fy mod i'n gwneud rhywbeth pwysig. Fe wnes i argyhoeddi un o fy ffrindiau hyd yn oed i gymryd rhan yn y treial hefyd. Dywedais wrth fy ffrindiau i gyd pa mor wych oedd gwneud ac y dylen nhw gymryd rhan mewn ymchwil os byddan nhw’n cael y cyfle."
Dysgwch fwy am y bobl y tu ôl i'r ymchwil a sut mae ymchwil Cymru wedi newid bywydau
I gael y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru yn syth i'ch mewnflwch, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol