O ble y mae brechlynnau’n dod?
Gallwch chi glywed Dr David Llewellyn yn siarad mwy am hanes a dyfodol brechlynnau ar ein podlediad Ble fydden ni heb ymchwil? Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n tanysgrifio lle bynnag rydych chi’n cael eich podlediadau ohono, fel nad ydych chi’n methu unrhyw bennod.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae brechlynnau wedi bod yn rhan anferthol o’n sgyrsiau bob dydd, ac ers eu rhyddhau ym mis Rhagfyr 2020, mae mwy na 2.4 miliwn o bobl wedi ymweld â chanolfannau brechu torfol a meddygfeydd ledled Cymru i gael eu hamddiffyn rhag COVID-19.
Ond mae brechlynnau wedi bod o gwmpas yn hirach o lawer na hynny.
Byd heb frechlynnau
Mae brechlynnau wedi bodoli am ryw 220 o flynyddoedd, ond cyn eu creu doedd ddim gennym ni rhyw lawer i ddibynnu arno i frwydro yn erbyn clefydau heintus. Roedd pobl yn marw o glefydau dydyn ni ddim mwyach yn gorfod poeni amdanyn nhw, fel polio neu difftheria.
Meddai Dr David Llewellyn, sydd wedi bod yn astudio hanes brechlynnau o ddiwedd y 1700au i heddiw: “Pe bai’r ymchwil sydd wedi’i gwneud i’r system imiwnedd a brechlynnau ddim gennon ni, fydden ni ddim yn y sefyllfa rydyn ni ynddi i allu dechrau brwydro yn erbyn pandemig byd-eang.”
Dechrau â’r frech wen
Roedd y frech wen yn un o glefydau mwyaf marwol y 1700au ac i mewn i’r 20fed Ganrif. Heb unrhyw driniaeth effeithiol, a gyda’r clefyd yn lladd bron i 60 miliwn o bobl rownd y byd, roedd y rhagolygon yn dywyll.
Torrwyd tir newydd ym 1792 pan wnaeth astudiaeth ymchwil gynnar, gan Dr Edward Jenner, ddangos y byddai plannu crawn, oedd wedi dod o fuwch â haint cowpog, i mewn i doriad bach ar y fraich yn darparu imiwnedd yn erbyn y frech wen.
Aeth David, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel Arweinydd y Rhwydweithiau Llesiant Integredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ymlaen i ddweud: “Pan gyhoeddodd Jenner ganlyniadau ei ymchwil, cafodd ei ystyried yn dipyn o rebel ond, erbyn dechrau’r 1800au, roedd yna eisoes lawer o bobl ledled y DU a oedd eisiau i’w plant ac aelodau o’u teulu gael eu brechu. Cwta bum mlynedd ar ôl yr astudiaeth gyntaf honno, roedd wedi ennill ei blwyf yn barod.”
Ym 1980, gwnaeth Sefydliad Iechyd y Byd ddatgan bod y frech wen wedi’i dileu yn llwyr, diolch i’r brechlynnau.
Dyfodol brechlynnau
Rydyn ni wedi symud ymlaen ymhell ers 1796 ac mae ein gwybodaeth helaeth o frechlynnau, y cyllid sydd ar gael a maint y boblogaeth sydd ar gael wedi golygu bod brechlynnau, fel y rheini ar gyfer COVID-19, yn cael eu gwneud yn sylweddol gyflymach a’u bod yn fwy effeithiol.
Meddai David: “Mae brechlynnau wedi bod yn rhan fawr o’n harfau i frwydro yn erbyn clefydau heintus, fel y ffliw a COVID-19, ac maen nhw wedi bod yn gyfrifol am gael gwared â chlefydau eraill hefyd.
“Dwi’n meddwl y bydd pethau annisgwyl yn dod i’n rhan yn y dyfodol, fel defnyddio brechlynnau yn erbyn tiwmorau. Rydyn ni wedi newid gêr â brechlynnau dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf ac mae hi’n mynd i fod yn hynod ddiddorol gweld beth fydd yn digwydd.”