Y claf cyntaf o Gymru i gael triniaeth arloesol i drin canser y gwddf
20 Mai
Mae'r claf cyntaf o Gymru wedi ei recriwtio i dreial arloesol i gymharu dau fath o radiotherapi ar gyfer canser yr oroffaryncs.
Enw’r treial yw TORPEdO (Lleihau Gwenwyndra drwy ddefnyddio Therapi Pelydr Proton ar gyfer canser yr Oroffaryncs) ac mae’n astudiaeth ledled y DU, wedi’i ariannu gan Cancer Research UK a’i gynnal gan y Sefydliad Ymchwil Canser, i gymharu radiotherapi ffoton safonol cyfredol (pelydrau-X) â radiotherapi proton.
Mae pelydriad traddodiadol, radiotherapi ffoton, yn danfon pelydrau-x, i'r tiwmor a thu hwnt iddo. Gall hyn niweidio meinweoedd iach cyfagos a gall achosi sgil-effeithiau sylweddol. I'r gwrthwyneb, mae therapi proton yn danfon pelydr o ronynnau proton sy’n stopio wrth y tiwmor, felly mae'n llai tebygol o niweidio meinweoedd iach cyfagos.
Mae'r treial hwn, sy'n cael ei arwain yn lleol gan y Prif Ymchwilydd a'r Oncolegydd Clinigol Dr Russell Banner, yn rhannu'r cyfranogwyr yn grwpiau lle bydd traean yn derbyn radiotherapi ffoton safonol a bydd dwy ran o dair yn derbyn therapi pelydr proton a bydd pob claf hefyd yn cael cemotherapi nad yw'n ymchwiliadol.
Dywedodd y Prif Ymchwilydd Lleol a'r Oncolegydd Clinigol yng Nghanolfan Ganser De Orllewin Cymru, Bae Abertawe, Dr Russell Banner, sy'n gweithio ar y treial hwn: “Prif nod y treial yw asesu a yw'r radiotherapi presennol (IMRT – ffotonau) neu radiotherapi newydd (IMPT - protonau) yn rhoi gwell canlyniadau hirdymor i gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser yr oroffaryncs.
“Rydym yn chwilio am welliannau i ansawdd bywyd a gallu llyncu cleifion 12 mis ar ôl triniaeth ynghyd â sgil-effeithiau hirdymor eraill a chost pob triniaeth.
“Gwnaethom ni gofrestru'r claf cyntaf o Gymru yn llwyddiannus i dreial TORPEdO lle byddan nhw’n derbyn gofal yng Nghanolfan Ganser De Orllewin Cymru yn Abertawe – yn ogystal â thriniaeth ychwanegol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Christie ym Manceinion.
“Mae'r tîm ymchwil, y claf a'i deulu wrth eu bodd yn cychwyn ar ei daith driniaeth yn ystod yr wythnosau nesaf.
“Dyma'r cyntaf o nifer o dreialon pelydr proton arloesol sy'n codi ledled safleoedd triniaeth. Y gobaith yw mai dyma ddechrau gwasanaeth radiotherapi cynyddol a chyffrous i gleifion sydd ar gael ledled Cymru a gweddill y wlad!”
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae'r treial hwn yn hynod gyffrous a gallai chwyldroi'r ffordd yr ydym yn trin canser ledled y DU. Rwyf mor falch bod staff a chleifion o Abertawe yn chwarae rhan annatod a'n bod yn gallu cynnig dewisiadau triniaeth i gleifion yng Nghymru fel rhan o ymchwil”
I gael rhagor o wybodaeth am y treial hwn ewch i Cancer Research UK neu Y Sefydliad Ymchwil Canser.
Er mwyn ymuno â threial bydd angen i chi ei drafod gyda'ch meddyg, fodd bynnag, i weld yr ymchwil sy'n cael ei chynnal yng Nghymru a chyfleoedd i helpu i lunio ymchwil ewch i'n tudalennau Cymerwch Ran mewn ymchwil.