alt

Cymerwch ran mewn ymchwil

Mae ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu i newid ac i wella bywydau pobl. Mae ymchwil yn ein helpu ni i ddysgu am sut i atal salwch ac i ddeall yr hyn sy’n ei achosi, ei ddiagnosio yn gynharach, i greu triniaethau gwell a mwy effeithiol ac i ddarparu’r gofal gorau.

Heb ymchwil, ni fyddai nifer o’r triniaethau a’r mathau o ofal rydyn ni’n eu derbyn heddiw ar gael.

Mae gan aelodau o’r cyhoedd rôl hanfodol i’w chwarae oherwydd na fyddai’r triniaethau a’r gofal gwell hyn yn bodoli heb bobl yn cytuno i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil.

Sut gallaf gymryd rhan?

Gall cymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil edrych yn wahanol yn dibynnu ar ddiben yr ymchwil. Nod ymchwil glinigol yw treialu meddyginiaethau a thriniaethau ac efallai y bydd angen i chi roi samplau gwaed neu feinwe. Gall mathau eraill o ymchwil ymwneud â gwella’r cymorth y mae gwasanaeth yn ei ddarparu a gallai gynnwys llenwi holiaduron.  

Byddwch chi bob amser yn derbyn gwybodaeth lawn am yr hyn a ddisgwylir cyn i chi benderfynu ar gymryd rhan mewn astudiaeth a rhoi caniatâd.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn astudiaeth, gallwch chi:

  • Siarad â’ch gweithiwr proffesiynol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol i ddysgu mwy am unrhyw astudiaethau y gallech chi fod yn addas ar eu cyfer.
  • Mynd i wefan ‘Be Part of Research’: sef gwasanaeth ar-lein sy’n helpu pobl i ddod o hyd i astudiaethau i gymryd rhan ynddynt a sut i wirfoddoli.
  • Cofrestru â Doeth ar Iechyd Cymru, sef astudiaeth genedlaethol ar gyfer unrhyw un dros 16 oed sy’n byw yng Nghymru neu sy’n derbyn gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein e-bost Cynnwys pobl o bwys bob wythnos i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf oll o ran straeon, cyfleoedd a digwyddiadau – fyddwch chi ddim eisiau methu hyn.