Gweinidog yn ymweld â chanolfan ymchwil Cymru sy’n ymwneud ag ymchwil ryngwladol i sglerosis ymledol a diabetes
22 Mai
Heddiw (19 Mai) ymwelodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, â’r Cyfleuster Cyd-ymchwil Clinigol yn Ysbyty Treforys yn Abertawe i gwrdd â’r staff sydd ar y blaen o ran ymchwil sy’n newid bywydau sy’n cael ei chynnal yng Nghymru.
Daeth yr ymweliad ar drothwy Diwrnod Treialon Clinigol Rhyngwladol, sydd wedi’i neilltuo ar gyfer dathlu ymchwil iechyd a gofal ledled y byd a chydnabod cyfraniad y gymuned ymchwil at wella triniaethau a gofal cleifion.
Mae Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn darparu cyllid i gefnogi a chynyddu ymchwil ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid Cyflawni Ymchwil Cymru Gyfan o tua £15 miliwn i sefydliadau’r GIG, i’w galluogi i gynnal treialon clinigol o safon uchel mewn amrywiaeth eang o feysydd.
Mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, mae’r Cyfleuster Cyd-ymchwil (JCRF) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gweithredu dau gyfleuster ymchwil glinigol arbenigol yn Ysbyty Treforys a’r Sefydliad Gwyddorau Bywyd 2 (ILS2).
Mae’r JCRF yn canolbwyntio ar ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer cyflyrau niwrolegol a chardiofasgwlaidd yn ogystal â diabetes, clefyd yr arennau a chlefyd yr afu.
Dywedodd yr Athro Steve Bain, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol, Ymchwil a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a’r arweinydd arbenigol ar gyfer diabetes yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae gan y JCRF gynghrair sefydledig gyda nifer o gwmnïau’r diwydiant gan gynnwys Novo Nordisk, Sanofi a Quintiles sy’n ein galluogi i ddod â chyfleoedd triniaeth byd-eang newydd i gleifion yng Nghymru.
“Gwnaethom ni barhau i weithredu yn ystod COVID-19, gan gynnwys cefnogi treial y brechlyn Medicago, ac er y bu’n rhaid oedi rhywfaint o ymchwil, parhaodd astudiaethau cardiaidd a sglerosis ymledol drwy gydol y broses."
Un o’r astudiaethau presennol sy’n digwydd yn y JCRF yw asesu dos newydd o gyffur sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion â sglerosis ymledol a allai leihau’r posibilrwydd o haint ar yr ymennydd sy’n risg gyda’r driniaeth safonol bresennol.
Bydd astudiaeth NOVA sy’n astudiaeth Cam 3 ryngwladol 2 flynedd yn asesu diogelwch ac effeithiolrwydd dos 4 wythnos o’i gymharu â 6 wythnos o gyffur o’r enw natalizumab sy’n cael ei roi i bobl sydd â sglerosis ymledol sefydlog atglafychol-ysbeidiol (RRMS).
Mae astudiaeth cam 3 yn profi diogelwch a pha mor dda y mae triniaeth newydd yn gweithio o’i chymharu â thriniaeth safonol.
Cafodd Beverly Parry, 30, o Grymych yn Sir Benfro ddiagnosis o MS bum mlynedd yn ôl ac mae wedi cymryd rhan mewn dwy astudiaeth ymchwil yn y Cyfleuster Ymchwil Clinigol ar y Cyd yn Abertawe dan ofal Niwrolegydd Ymgynghorol Dr Owen Pearson.
"Doeddwn i ddim yn petruso cyn cymryd rhan yn yr astudiaethau ac mae'r gefnogaeth a gewch gan bawb yn y tîm ymchwil yn wych. Maent mor dda am esbonio popeth, does dim jargon ac mae nhw'n mynd drwy'r holl opsiynau gyda chi. Mae'n rhaid i chi feddwl am y dyfodol ac rwy'n gwybod efallai na fydd y triniaethau yno i mi ond os byddaf yn cymryd rhan yn yr ymchwil, efallai eu bod yno i eraill ac mae'n dda bod yn rhan o hynny."
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Nid yw’r sylfaen dystiolaeth y mae ymchwil yn ei darparu erioed wedi bod mor bwysig i sbarduno’r newid y mae angen i ni ei weld mewn arferion arloesol iechyd a gofal sy’n dod i’r amlwg a ffyrdd newydd o weithio sydd wedi’u cyflwyno yn ystod ac ers pandemig COVID-19.
"Mae’n dyst i ymroddiad ac ymrwymiad staff ymchwil yn y JCRF fod cyfleoedd i gleifion gymryd rhan mewn astudiaethau ar draws amrywiaeth o feysydd clefydau a dewisiadau triniaeth efallai na fyddai ar gael mewn mannau eraill. Mae angen i ni sicrhau bod gwerth ymchwil yn parhau i fod yn weladwy, ei fod wedi’i wreiddio’n wirioneddol yn ein GIG ac yn cael effaith wirioneddol."
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y sefydliad sy’n goruchwylio ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol: "Rydym yn falch iawn o gyfraniad Cymru at ymchwil a threialon clinigol sy’n cael eu cynnal yma yng Nghymru, yn enwedig yn ystod y pandemig ond hefyd ar draws amrywiaeth eang o feysydd clefydau.
"Dim ond un enghraifft yw’r gwaith yn Abertawe o sut mae ymchwil yn effeithio arnom ni i gyd a heb y gymuned ymchwil dalentog ynghyd â’r cleifion sy’n rhoi o’u hamser yn anhunanol, ni fyddem yn gallu gwella triniaethau a dod o hyd i atebion i rai o’n problemau iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf heriol."
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r enw Ble fydden ni heb Ymchwil? sy’n arddangos effaith ymchwil sy’n digwydd yng Nghymru ac yn rhannu straeon pobl sydd wedi elwa ar driniaethau newydd o ganlyniad i ymchwil.