Mae ymchwil yn achub bywydau.
Ydych chi erioed wedi edrych ar eich anwyliaid a meddwl ble fydden ni heb eich pwmp asthma, inswlin, cerddoriaeth i leddfu straen dementia neu hyd yn oed y brechlyn COVID-19?
Mae’r rhain, a miloedd yn fwy o driniaethau, ar gael oherwydd ymchwil.
Mae gwyddonwyr, ymchwilwyr, meddygon, nyrsys, clinigwyr a gweithwyr gofal dawnus ledled Cymru’n rhoi o’u hamser a’u hymdrech i ddatblygu meddyginiaethau sy’n torri tir newydd ac i ofalu amdanon ni.
Mae ein hymgyrch ble fydden ni heb ymchwil yn adrodd y stori am sut y mae ymchwil yn newid bywydau ac am y rhan hanfodol rydych chi’n ei chwarae.
Boed yn rhan o dreial clinigol neu hyd yn oed yn helpu ymchwilydd i ddarganfod mwy am eich salwch, mae’ch angen chi arnon ni.
Heboch chi, does yna ddim ni.
I gael y newyddion diweddaraf am ymchwil yng Nghymru yn syth i’ch mewnflwch, cofrestrwch i dderbyn ein bwletin wythnosol.
Os hoffech chi wybod pa ymchwil sy’n digwydd yng Nghymru nawr, ewch i Be Part of Research a chwilio am astudiaeth.