Yn dathlu gwaith Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd ledled Cymru
23 Awst
Ar gau i gael cyflwyniadau
Mae Gwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd (AHA) Cymru yn gyfle i gydnabod a dathlu gwaith pwysig ac arloesol gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ledled Cymru.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n falch o noddi’r Wobr ar gyfer Cyfraniad Eithriadol at Gyflenwi Ymchwil.
Mae’r wobr hon yn dathlu cyflawniadau unigolyn neu dîm sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at gyflenwi ymchwil. Mae enillydd y wobr yn fodel rôl ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd sy’n dangos arweinyddiaeth mewn cyflenwi ymchwil ledled Cymru. Gall pobl enwebu eu hunain neu enwebu cydweithiwr neu aelod o’u tîm ar gyfer y wobr hon.
28 Medi ydy’r dyddiad cau i gyflwyno’ch cynnig ar gyfer y gwobrau a chynhelir cinio’r seremoni wobrwyo ar 18 Tachwedd yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.
Mae croeso i gynigion ar gyfer pob un o’r naw categori, chwech ohonyn nhw ar gyfer gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd. Mae’r meini prawf llawn ar gyfer pob gwobr, sy’n cefnogi’r wybodaeth y mae angen ei chynnwys yn natganiad y cynnig, i’w gweld yn y ddalen wybodaeth.
Gwobrau ar agor i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd cymwysedig
Categori 1. Y Wobr ar gyfer Ffyrdd Newydd o Weithio
Wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru, Is-adran y Rhaglen Trawsnewid
Categori 2. Y Wobr ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheoli Newid yn Dosturiol
Wedi’i noddi gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Categori 3. Y Wobr ar gyfer Gwella Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Categori 4. Y Wobr ar gyfer Cyfraniad Eithriadol at Gyflenwi Ymchwil
Wedi’i noddi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Categori 5. Y Wobr ar gyfer Rhagoriaeth mewn Adsefydlu
Categori 6. Y Wobr ar gyfer Arloesedd Digidol a Thechnolegol
Wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru
Gwobr ar agor i staff cymorth, cymdeithion a phrentisiaid sy’n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr gofal iechyd
Categori 7. Y Wobr ar gyfer Cyflawniad Rhagorol gan Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd neu Brentis, Gweithiwr Cymorth, Cynorthwyydd neu Gydymaith Gwyddor Gofal Iechyd
Wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru
Gwobr ar agor i wyddonwyr gofal iechyd
Categori 8. Gwyddonydd Gofal Iechyd y Flwyddyn
Wedi’i noddi gan Bwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru
Gwobr ar agor i weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd
Categori 9. Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd y Flwyddyn
Wedi'i noddi gan Bwyllgor Cymru ar gyfer Proffesiynau Perthynol i Iechyd