adroddiad blynyddol 2022

‘Ble fydden ni heb ymchwil?’ – yr ymchwil arloesol yng Nghymru sy’n trawsnewid bywydau

23 Hydref

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan wedi canmol ymdrechion parhaus yr ymchwilwyr dawnus a’r timau cyflawni ledled Cymru sydd wedi ymrwymo’u hamser i helpu i lunio a chymryd rhan mewn ymchwil o’r radd flaenaf.

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ‘Ble fydden ni heb ymchwil?’ heddiw (dydd Iau 13 Hydref) mewn cynhadledd a fydd yn arddangos ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol arloesol, yn ogystal â thrafod pynciau pwysig fel newid polisi ac arfer, cynnwys y cyhoedd, a datblygu capasiti ymchwilio.

Dywedodd Ms Morgan:

Hoffwn i ddweud Diolch o galon i’r staff – mae’n wych gweld cynifer o bobl yn cymryd rhan.

Trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn yr astudiaethau ac yn cefnogi’r astudiaethau a fydd yn fwyaf perthnasol i bobl Cymru, ac yn helpu i ddarparu’r dystiolaeth i sicrhau effaith a newid gwirioneddol a chyflenwi’r triniaethau a gofal mwyaf effeithiol i gleifion.

Mae’r ymchwil a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn rhan annatod o bolisïau a mentrau cenedlaethol allweddol fel y weledigaeth uchelgeisiol i drawsnewid cyflawniad ymchwil glinigol ledled y DU, ‘Achub a Gwella Bywydau: Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol yn y DU’.”

Er y pandemig, mae 119 o astudiaethau COVID-19 wedi’u sefydlu a’u cyflenwi gyda mwy na 60,000 o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan mewn ymchwil COVID-19. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi parhau i ariannu prosiectau sy’n berthnasol i’r cyhoedd, i arfer ac i bolisi wrth gefnogi datblygiad ymchwilwyr unigol ledled Cymru. Arweiniodd galwadau cyllid a oedd ar agor rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022 at 30 o ddyfarniadau ymchwil newydd gwerth £6.4 miliwn.

Bydd cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022 – ar y thema ‘Ble fydden ni heb ymchwil?’ – yn cynnwys sesiynau yn archwilio effaith ymchwil gwyddorau biofeddygol a gofal cymdeithasol, gwella sut rydym yn cyflenwi ymchwil glinigol yng Nghymru, yn ogystal ag arddangos ffyrdd arloesol a diddorol o helpu i droi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn arfer.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru; Judith Paget CBE, Prif Weithredwr, GIG Cymru; yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru; Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru; yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru; Dr Lisa Trigg, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Ymchwil, Data ac Arloesi, Gofal Cymdeithasol Cymru.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru,

Rwy’n falch iawn arddangos yn ein hadroddiad blynyddol a’n cynhadledd eleni ymdrechion anferthol y gymuned ymchwil i adfer gweithgarwch ymchwil ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gefnogi’r GIG i ailddechrau ymchwil mewn meysydd a oedd wedi’u hoedi oherwydd y pandemig, a sefydlu canolfannau a chyfleusterau ymchwil pwrpasol newydd mewn byrddau iechyd ledled Cymru gan gynnwys ym Myrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Betsi Cadwaladr, Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan, i gynnig mynediad cynnar i’r triniaethau a’r therapïau diweddaraf.

Gan adeiladu ar etifeddiaeth a gwersi pandemig COVID-19, byddwn yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesaf yn fuan i wella’r holl ymchwil iechyd a gofal i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac i osod y sylfeini ar gyfer gwell canlyniadau i gleifion, pobl a chymunedau ledled Cymru.”