Cydymaith Ymchwil - DECIPHer
Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yn chwilio am Gydymaith Ymchwil i weithio yn y Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer), canolfan ymchwil sydd wedi’i lleoli yn yr Ysgol.
Mae’r rôl yn rhan o astudiaeth ryngwladol newydd gyffrous, a arweinir ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd fel rhan o gonsortiwm o 8 sefydliad, a elwir FLOURISH (Hybu Iechyd Glasoed a Gydol Oes sy’n Canolbwyntio ar y Teulu). Bydd FLOURISH yn addasu, yn gweithredu ac yn gwerthuso cyfres o raglenni sy’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng ieuenctid yn ystod y glasoed a’u rhoddwyr gofal er mwyn cefnogi iechyd meddwl yn ystod y glasoed ym Moldofa a Gogledd Macedonia. Bydd y rhaglenni'n cael eu haddasu i ddarpariaeth gwasanaeth a chyd-destn diwylliannol dau rwydwaith iechyd gwlad gyfan, yng Ngogledd Macedonia a Moldofa, gan gynnwys anghenion y poblogaethau ffoaduriaid o Wcráin
Nod FLOURISH yw meithrin arloesedd fethodolegol a chynyddu’r nifer sy’n manteisio ar ymyriadau teuluol, ffynhonnell agored a chynaliadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer y glasoed mewn lleoliadau sydd â lefel isel o adnoddau.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli'r ymchwil o fewn gwerthuso'r broses, elfen o'r astudiaeth gyffredinol, ac yn cefnogi meysydd gwaith eraill sy'n gysylltiedig â'r astudiaeth werthuso ehangach.
16065BR