Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi bod galwad newydd am y Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil bellach ar agor.
Bydd y rownd yn cau i geisiadau ddydd Iau 13 Chwefror am 16:00. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried.
Gwnewch gais nawr gan ddefnyddio System Reoli Dyfarniadau'r Gyfadran
Mae'r cynllun hwn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ennill gwybodaeth, hyder, dulliau ymchwil a sgiliau manwl trwy gwblhau gradd Ymchwil (Dulliau) lefel meistr a addysgir neu gwrs hyfforddi ymchwil lefel meistr cyfatebol mewn ymchwil iechyd cymhwysol a/neu ofal cymdeithasol sy'n dechrau yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26.
Mae'r cyfle yn agored i staff GIG Cymru, awdurdodau lleol (gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion neu blant), neu mewn darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol fel gofal sylfaenol, fferyllfa gymunedol, gofal preswyl i oedolion neu blant, neu ofal cartref. Mae wedi'i anelu at y rhai sydd yng nghamau cynnar eu gyrfa ymchwil (nid o reidrwydd yn gynnar yn eu gyrfa glinigol neu ymarfer) i'w cefnogi i ddatblygu sgiliau dulliau ymchwil cymhwysol a fydd yn eu tro yn eu galluogi i gymryd y camau cyntaf ar eu taith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r cyllid yn cynnwys ffioedd dysgu a chostau cyflog rhannol i ymgeiswyr ymgymryd â rhaglenni Treialon Clinigol neu Ddulliau Ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol ar lefel Meistr a addysgir. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno achos cryf dros effaith debygol y dyfarniad ar eu datblygiad ymchwil a'u llwybr gyrfa.
Mae ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y dyfarniad hwn yn dod yn aelodau o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn awtomatig. Mae bod yn aelod o'r Gyfadran yn golygu cael mynediad at ystod o gyfleoedd dysgu, datblygu a rhwydweithio sydd â'r bwriad o ysgogi a datblygu'r gymuned ymchwil yng Nghymru. Disgwylir i holl ddeiliaid Dyfarniad Personol y Gyfadran ymgysylltu â gwaith y Gyfadran. Dylai ymgeiswyr fanylu ar sut y byddant yn cymryd rhan mewn cyfleoedd Cyfadran, yn ogystal â sut y cânt eu cefnogi gan y sefydliad sy'n eu lletya drwy gydol eu dyfarniad ac ar ôl cwblhau eu dyfarniad.
Cylch Gwaith
Nod y Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil yw cefnogi datblygiad sgiliau ymchwil cyn-ddoethurol darpar ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru trwy gynnig cyllid (ffioedd dysgu a chymorth cyflog rhannol). Mae hyn wedi'i anelu at unrhyw aelod o staff sefydliadau cymwys sy'n cyflogi ac sy'n dymuno datblygu gyrfa mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y dyfarniad yn galluogi'r ymgeisydd i ymgymryd â Threialon Clinigol neu Ddulliau Ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol ar lefel meistr a addysgir. Mae opsiynau astudio llawn amser a rhan-amser ar gael. Dylai cyrsiau dethol ddarparu'r holl sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i hyfforddiant neu ymarfer doethurol academaidd clinigol. Rhaid i unrhyw gyrsiau dulliau ymchwil gofal cymdeithasol gael eu hachredu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Rhaid i ymgeiswyr:
- fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd a nodir isod
- dangos yn glir yn eu cais sut y bydd y cyfle hyfforddiant ymchwil a ddewiswyd
yn hwyluso eu dilyniant gyrfa ymchwil a'u datblygiad tuag at arweinyddiaeth ymchwil
Mae cyllid ar gael ar gyfer ffioedd dysgu a chymorth cyflog rhannol yn unig. Nid oes unrhyw gyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer teithio a chynhaliaeth.
Beth fyddwn ni'n ei ariannu
Bydd y dyfarniad yn cynnwys:
- ffioedd dysgu ar gyfer y cwrs
- costau cyflog o hyd at 0.2 WTE (1 diwrnod yr wythnos) ar gyfer cyrsiau a gynhelir yn llawn amser, neu 0.1 WTE (1/2 diwrnod yr wythnos) ar gyfer ymgeiswyr sy'n dymuno dilyn y cwrs yn rhan-amser
Ni fydd y dyfarniad yn cynnwys:
- costau teithio a chynhaliaeth sy’n cael eu gwario ar unrhyw weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r dyfarniad hwn
- unrhyw gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs dewisol
- cyrsiau lle mae'r ymgeisydd eisoes wedi cofrestru ac wedi dechrau ymgymryd â gwaith cwrs, oni bai bod tystiolaeth glir bod y rhain yn gyrsiau hyfforddi dulliau ymchwil ar lefel meistr. Yn yr achosion hyn, cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â thîm gweinyddu'r Gyfadran i drafod eu cais a'r cais cysylltiedig am gyllid ar gyfer gweddill gwaith y cwrs neu draethawd hir.
Disgwyliadau Cymwysterau Hyfforddiant Dulliau Ymchwil
Dylai cyrsiau a ariennir gynnwys o leiaf 80 credyd sy'n ymroddedig i ddulliau ymchwil iechyd a/neu ofal cymdeithasol a addysgir ar lefel meistr. Mae lleoliadau ymchwil sy'n rhan annatod o'r rhaglen waith, ochr yn ochr â thraethodau hir 60 credyd, hefyd yn cael eu hannog. Dylai’r cwricwla roi'r holl sgiliau sydd eu hangen i’r ymgeisydd symud ymlaen tuag at lwybr gyrfa ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Dylai'r rhaglen lefel meistr a ddewiswyd sicrhau darpariaeth o hyfforddiant ffurfiol cadarn mewn dylunio ymchwil, dulliau meintiol ac ansoddol (gan gynnwys gwyddoniaeth weithredol), rheoli a dadansoddi data a fframweithiau rheoleiddio a moesegol ar gyfer ymchwil iechyd a/neu ofal cymdeithasol. Ar ôl cwblhau'r rhaglen hyfforddiant lefel meistr perthnasol, dylai'r ymgeisydd feddu ar sgiliau dulliau ymchwil uwch sy'n berthnasol i'w faes astudio a gallu dangos ei berthnasedd a'i gymhwyso i ymchwil yn ymarferol.
Darperir rhestr o gyrsiau sy'n bodloni disgwyliadau ar gyfer y dyfarniad yn y canllawiau. Sylwch nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr; efallai y bydd rhaglenni eraill y mae ymgeiswyr yn dymuno gwneud cais amdanynt. Dylai ymgeiswyr ddarparu cyfiawnhad dros eu dewis o gwrs yn eu cais.
Meini Prawf Cymhwysedd
Rhaid bodloni'r meini prawf canlynol:
- rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi gan GIG Cymru, Awdurdodau Lleol (gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion neu blant) neu mewn darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol fel gofal sylfaenol, fferylliaeth gymunedol, gofal preswyl i oedolion neu blant, neu ofal cartref yng Nghymru
- rhaid i ymgeiswyr allu dechrau ar eu cwrs dewisol erbyn mis Hydref 2025 fan bellaf, cynghorir ymgeiswyr i gysylltu ag arweinwyr y cyrsiau perthnasol i bennu dyddiadau cychwyn ar gyfer y modiwlau perthnasol
- rhaid i ymgeiswyr aros mewn cyflogaeth gyda sefydliad cymwys drwy gydol eu dyfarniad
- rhaid i ymgeiswyr gael cefnogaeth eu Pennaeth Adran neu gyfwerth yn y sefydliad sy'n eu cyflogi, gydag unrhyw drefniadau ôl-lenwi wedi'u cytuno mewn egwyddor cyn gwneud cais
- rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwyster eu cwrs dewisol (e.e. rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd baglor eilradd, neu fod â phrofiad cyfatebol).
Sut i wneud cais
Mae'r alwad hon yn cau i geisiadau ddydd Iau 13 Chwefror am 16:00.
Dylai'r ffurflen gais gael ei llenwi gan ddefnyddio System Reoli Dyfarniadau Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Sylwch y bydd gofyn i lofnodwyr awdurdodedig gadarnhau cyfranogiad yn ystod y broses ymgeisio, felly dylid rhoi digon o amser iddynt ymateb cyn y dyddiad cau cyflwyno.
Meini Prawf Asesu
Bydd y panel yn asesu pob cais yn erbyn y meini prawf canlynol:
- diddordebau ymchwil yr ymgeisydd sy'n dangos ei botensial fel ymchwilydd academaidd ymarfer neu glinigol yn y dyfodol
- cyfiawnhad yr ymgeisydd dros y cwrs a ddewiswyd a sut y bydd y cwrs a ddewiswyd yn ei alluogi i ddatblygu ei fwriadau ymchwil
- cynllun yr ymgeisydd ar gyfer gyrfa ymchwil academaidd glinigol neu ymarfer y tu hwnt i dymor y dyfarniad hwn
- cefnogaeth Pennaeth Adran (neu gyfwerth) yr ymgeisydd
Bydd y panel yn gwneud argymhellion cyllid i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Llywodraeth Cymru). Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Llywodraeth Cymru) yn gwneud y penderfyniadau cyllido terfynol, gan ystyried cryfder argymhellion y panel a'r adnoddau sydd ar gael. Mae'r penderfyniadau hyn yn derfynol ac nid ydynt yn agored i’w hapelio.
Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn disgwyl rhoi gwybod i bob ymgeisydd am y canlyniad ym mis Mai 2025.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau ar gyfer yr alwad.
Cymorthfeydd Dyfarniad
Ymunwch â'n Cynghorwyr Datblygu Ymchwilwyr mewn cymhorthfa dyfarniad am y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil
- Dydd Llun 13 Ionawr 10:00 – 11:00
- Dydd Mawrth 21 Ionawr 13:00 – 14:00
Archebwch eich lle mewn cymhorthfa.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiynau wrth baratoi eich cais, cyfeiriwch at y dogfennau canllawiau galwadau a ddarparwyd. Gallwch hefyd gysylltu â'r tîm drwy e-bost.
Hysbysiad Preifatrwydd
Mae hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer grantiau yn nodi sut y bydd yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir yn ystod y cyfnod ymgeisio.