Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil
Mae’r cynllun hwn yn cynnig cyfle i gael cyllid i dalu am y ffioedd dysgu sydd eu hangen i ymgymryd â gradd Meistr mewn Ymchwil neu gwrs hyfforddiant ymchwil lefel-M cyfatebol mewn ymchwil iechyd cymhwysol a/neu ofal cymdeithasol.
Bwriedir y wobr i’r rheini sydd yng nghamau cynnar eu gyrfa ymchwil (nid o reidrwydd cam clinigol cynnar neu yrfa ymarfer) i'w cefnogi i ddatblygu sgiliau ymchwil cymhwysol a chymryd y camau cyntaf ar eu taith ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Cylch Gwaith
Mae’r wobr cyllid yn talu am ffioedd dysgu (a chostau cyflog hyd at 0.2 cyfwerth ag amser llawn [WTE], lle y bo’n briodol) i ymgeiswyr ymgymryd â gradd Meistr Ymchwil achrededig neu radd Meistr Ymchwil iechyd neu ofal cymdeithasol cymhwysol amgen, neu raglen lefel meistr treialon clinigol. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno achos cryf dros effaith debygol y wobr ar eu datblygiad ymchwil a'u llwybr gyrfa. Gellir dilyn cyrsiau amser llawn neu ran amser.
Byddwn yn ariannu:
- Ffioedd dysgu ar gyfer y cwrs
Gall ymgeiswyr hefyd wneud cais am gostau cyflog hyd at 0.2 WTE (1 diwrnod yr wythnos)
Ni fyddwn yn ariannu:
- Costau teithio a chynhaliaeth a dynnir gan y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r wobr hon
Unrhyw gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch dewis gwrs - Ni fydd y wobr yn ariannu cyrsiau lle mae'r ymgeisydd eisoes wedi cofrestru ac wedi dechrau gwneud gwaith cwrs, ac nid yw’r wobr i'w ddefnyddio i ariannu cyrsiau o’r fath, oni bai bod tystiolaeth glir o'r rhain fel dyfarniadau hyfforddi dulliau ymchwil a addysgir. Mewn achosion o’r fath, cynghorir ymgeiswyr i gysylltu â thîm gweinyddol y Gyfadran i drafod eu cais a’u cais cysylltiedig am gyllid am weddill y gwaith cwrs neu'r traethawd estynedig.
Cymhwyster
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol:
- Rhaid i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth yn GIG Cymru, Awdurdodau Lleol – gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion neu blant, neu'n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol yng Nghymru.
- Rhaid i ymgeiswyr allu cychwyn ar eu dewis gwrs erbyn mis Ionawr y flwyddyn yn dilyn cais fan bellaf. Cynghorir ymgeiswyr i gysylltu ag arweinwyr y cwrs perthnasol i drefnu dyddiadau cychwyn ar gyfer y modiwlau perthnasol.
- Rhaid i ymgeiswyr aros mewn cyflogaeth yn GIG Cymru neu Awdurdod Lleol / Sefydliad Gofal Cymdeithasol yng Nghymru am gyfnod eu dyfarniad.
- Rhaid i ymgeiswyr gael cefnogaeth Pennaeth yr Adran neu swyddog cyfatebol yn y sefydliad cyflogi perthnasol.
- Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion cymhwysedd y cwrs o'u dewis (e.e. Gradd Baglor 2.1 uwch neu gyfwerth)
Proses asesu
Yn gyntaf, caiff ceisiadau eu hasesu o ran eu cymhwysedd a’u cylch gwaith gan dîm gweinyddol Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Bydd ceisiadau yr ystyrir eu bod yn gymwys wedyn yn cael eu hasesu gan aelodau'r panel cyllido.
Bydd y panel yn asesu pob cais ar sail y meini prawf canlynol:
- Diddordebau’r ymgeisydd mewn ymchwil sy'n dangos ei botensial fel ymchwilydd clinigol neu ymchwil academaidd ymarfer yn y dyfodol.
- Cyfiawnhad yr ymgeisydd dros y cwrs a ddewiswyd, a sut y bydd y cwrs a ddewiswyd yn ei alluogi i symud ymlaen â'i amcanion ymchwil.
- Cynllun yr ymgeisydd ar gyfer gyrfa ym maes ymchwil academaidd glinigol neu ymarfer y tu hwnt i dymor y wobr hon.
- Cefnogaeth Pennaeth Adran neu swyddog cyfatebol y sefydliad cyflogi perthnasol.
Pryd
Mae hwn yn gynllun blynyddol gyda galwadau'n agor ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae'r alwad nesaf wedi'i threfnu ar gyfer mis Ionawr 2025.