Gwobrau MRC 2023: Enwebiadau ar agor
Mae gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) bortffolio o wobrau sydd bellach ar agor i unigolion a thimau sydd ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd ymchwil.
Mae cystadlaethau Gwobr Effaith MRC 2023 a Medal Mileniwm MRC 2023 ar agor ar gyfer enwebiadau. Dyfernir y gwobrau uchel eu parch hyn yn flynyddol i unigolion a thimau rhagorol sydd ar amrywiaeth eang o gamau gyrfa.
Bydd yr enillwyr wedi gwneud gwahaniaeth trawsnewidiol ym maes ymchwil feddygol, o ddarganfyddiadau gwyddonol i wella’r amgylchedd a’r diwylliant ymchwil ehangach.
Croesewir enwebiadau ar gyfer pobl nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd mewn rhai sectorau o’r gymuned ymchwil ac arloesi, gan gynnwys menywod, pobl ag anabledd ac aelodau o grwpiau ethnig lleiafrifol.
Terfyn ar gyfer enwebiadau: 16:00 ar 30 Mehefin 2023
Gwobr Effaith MRC 2023
Mae Gwobr Effaith MRC yn cydnabod cyfraniadau rhagorol yn y tri maes canlynol:
- Effaith Gwyddoniaeth Agored
- Effaith Tîm Rhagorol
- Effaith Gyrfa Gynnar
Mae’r gwobrau yn agored i gymysgedd o unigolion a thimau. Bydd yr enillwyr yn derbyn hyd at £20,000.
Ceir rhagor o fanylion ar gymhwysedd a’r broses enwebu ar wefan Gwobr Effaith MRC, neu anfonwch e-bost i’r tîm.
Medal Mileniwm MRC 2023
Yn agored i unigolion ar lefel uwch, crëwyd Medal Mileniwm MRC yn arbennig gan y Bathdy Brenhinol a’i dyfarnu am gyfraniadau rhagorol tuag at genhadaeth yr MRC o wella iechyd dynol trwy ymchwil o’r radd flaenaf yn y byd.
Dylai enwebeion arddangos:
- rhagoriaeth wyddonol ac effeithiau rhagorol
- ymrwymiad i wella’r amgylchedd a’r diwylliant ymchwil ehangach.
Ceir rhagor o fanylion ar gymhwysedd a’r broses enwebu ar wefan Medal Mileniwm MRC, neu anfonwch e-bost i’r tîm.