Cynllun Ariannu Integredig - Cangen 1: Ymchwil Trosi a Chlinigol
Bydd y gangen hon yn ariannu ymchwil sy’n canolbwyntio ar drefnu a darparu gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol neu faterion iechyd y cyhoedd, gan gynnwys atal ac iechyd y boblogaeth, sy’n bwysig yng Nghymru.
Sylwch fod y cynllun ariannu’n cael ei asesu drwy broses ymgeisio dau gam.
Cynllun Ariannu Integredig – Llinell Amser Galwad 3
Lansiad Cam 1: Dydd Mawrth 3 Medi 2024
Cam 1 yn cau: Dydd Iau 24 Hydref 2025
Lansiad Cam 2: Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2024
Cam 2 yn cau: Dydd Mercher 5 Mawrth 2025 am 13:00
Argymhellion y Bwrdd Ariannu: Medi 2025
Dechrau’r prosiectau a ariennir: 1 Hydref 2025
Cyflwynir ceisiadau Cam 2 drwy wahoddiad yn unig.
Bydd gan yr alwad dan arweiniad ymchwilydd un pwynt ymgeisio y flwyddyn, a fydd yn lansio ym mis Medi. Bydd gan y gangen ar gyfer galwadau ymchwil â ffocws, fel rhan o’r Cynllun Ariannu Integredig, un pwynt ymgeisio y flwyddyn, a fydd yn lansio yn y gwanwyn.
Cylch gwaith y Cynllun Ariannu Integredig a chymhwystra ar ei gyfer - Cangen 1: Ymchwil Trosi a Chlinigol
Pwrpas a chylch gwaith
Bydd y gangen Ymchwil Trosi a Chlinigol yn cefnogi ymchwil drosi hyd at ymchwil glinigol ddiweddarach, gan ganolbwyntio ar ymchwil sydd wedi’i hanelu at ddiagnosis, atal ac ymyrraeth gynnar, datblygu triniaethau neu wella triniaethau ar gyfer clefydau a chyflyrau sy’n effeithio ar bobl yng Nghymru, neu sy’n arbennig o berthnasol iddynt.
Rhaid i bob ymgeisydd, gan gynnwys y rhai sy’n dymuno gwneud ymchwil drosi gynharach, ddangos yr angen am yr ymchwil arfaethedig, a phwysigrwydd yr ymchwil honno.
Mae ymchwil glinigol gynnar ac ymchwil labordy hwyr o fewn y cwmpas, ar yr amod bod llwybr priodol i gymhwysiad a/neu effaith glinigol yn cael ei nodi o fewn amserlen resymol. Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd nodi’n glir effaith debygol ei ganfyddiadau yn y tymor byr i ganolig a nodi’r manteision tebygol ar gyfer y cyhoedd, polisi neu ymarfer. Sylwch nad yw ymchwil sy’n defnyddio anifeiliaid o fewn y cwmpas.
Cylch gwaith cyffredinol y Cynllun Ariannu Integredig
Yn ogystal â’r ystyriaethau cylch gwaith sy’n benodol i bob cangen uchod, mae rhai pwyntiau ychwanegol isod sy’n berthnasol i’r ddwy gangen.
Croesewir ceisiadau sydd wedi’u cwmpasu’n dda a fydd yn cynhyrchu canfyddiadau i lywio ceisiadau ariannu ymchwil diweddarach, yn ogystal â cheisiadau ar gyfer prosiectau a fydd yn cynhyrchu canfyddiadau ‘sy’n cael effaith’ yn eu rhinwedd eu hunain.
Fodd bynnag, er bod ceisiadau i ymgymryd ag ymchwil a fydd yn llywio ceisiadau dilynol i arianwyr eraill ar gyfer astudiaethau mwy o faint a/neu ddiffiniol yn cael eu hannog, ni fyddwn yn ariannu ceisiadau sydd eisoes yn addas i’w cyflwyno i raglenni’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyfrannu atynt.
Croesewir ceisiadau gan ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a’r rhai nad ydynt wedi arwain ymchwil o’r blaen ond sy’n edrych i adeiladu portffolios ymchwil a chael profiad o arwain ymchwil.
O fewn paramedrau cyffredinol yr alwad, croesewir ceisiadau o wahanol hyd, maint a chost. Dylai ymgeiswyr gofio bod ceisiadau yn aml yn methu ar y cam asesu am eu bod yn cael eu hystyried yn rhy uchelgeisiol.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod wedi ystyried perthnasedd ac effaith eu gwaith ar grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig. Dylai’r rhai sy’n datblygu treialon fod yn ymwybodol o Fframwaith Ethnigrwydd INCLUDE – Trial Forge, a’i ystyried, er mwyn helpu i wella’r ffordd y caiff treialon eu cynnal ar gyfer grwpiau a danwasanaethir.
Caiff ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, ac yn enwedig sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau, ei annog yn gryf drwy gydol y broses ymchwil er mwyn sicrhau’r potensial mwyaf o ran cyfnewid gwybodaeth ac effaith.
Dylai ymgeiswyr ddangos sut y bydd partneriaid ymchwil cyhoeddus yn cymryd rhan yn ystod y prosiect. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn disgwyl cyfranogiad priodol sydd wedi’i ddylunio’n dda gan bartneriaid ymchwil cyhoeddus yn yr ymchwil y mae’n ei gefnogi, felly cyfeiriwch at Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd mewn Ymchwil. Mae’n hanfodol dangos ar y ffurflen gais gynlluniau ar gyfer cynnwys partneriaid ymchwil cyhoeddus ar bob cam priodol o gylch bywyd y prosiect ymchwil.
Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd lunio cynllun lledaenu sy’n dangos yn glir sut y bydd negeseuon allweddol yr ymchwil yn cael eu cyfleu’n effeithiol i gynulleidfaoedd perthnasol, gan gynnwys llunwyr polisi, darparwyr gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr ac ymchwilwyr.
Cymhwystra ar gyfer y cynllun
- Rhaid i ymgeiswyr arweiniol a chydarweiniol fod wedi’u lleoli mewn sefydliad yng Nghymru ar adeg gwneud cais (neu fod yn derbyn cynnig swydd sy’n golygu y byddant wedi’u lleoli yn y sefydliad cynnal cyn i’r prosiect ddechrau).
- Rhaid i ymgeiswyr arweiniol a chydarweiniol feddu ar PhD, MD y DU neu ddoethuriaeth broffesiynol arall yn seiliedig ar ymchwil sy’n gysylltiedig ag iechyd neu ofal (derbynnir ceisiadau gan y rhai sydd wedi cyflwyno eu traethawd ymchwil PhD, neu gyfwerth, i’w sefydliad asesu yn ddiweddar, cyn belled â bod y ddoethuriaeth yn cael ei dyfarnu cyn i’r grant ddechrau) NEU fod â hanes cyfatebol o ymchwil ar adeg gwneud cais.
- Rhaid i geisiadau gael eu cefnogi gan y sefydliad cynnal.
- Croesewir ceisiadau gan ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa (a ddiffinnir yma fel unigolion nad oes ganddynt fwy na 60 mis o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol, heb gynnwys, er enghraifft, seibiannau gyrfa, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth a salwch), a’r rhai sydd eisiau bod yn ymchwilwyr arweiniol am y tro cyntaf.
- Rhaid i geisiadau gan ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa gael cefnogaeth Prif Gyd-ymgeisydd gan uwch-ymchwilydd. Fel arall, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. (Gall ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa y mae eu ceisiadau yn llwyddiannus elwa ymhellach o aelodaeth Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.)
- Os yw’r ymgeisydd arweiniol yn ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa, rydym yn disgwyl i’r Prif Gyd-ymgeisydd ddod o’r un sefydliad oni bai bod sail resymegol gref, sy’n gysylltiedig ag arbenigedd academaidd a datblygiad yr ymchwilydd ar ddechrau ei gyrfa, pam nad yw hyn yn wir.
- Anogir ceisiadau ar gyfer prosiectau o wahanol hyd a gwahanol gost, ar yr amod bod achos cryf yn cael ei wneud dros werth ac ansawdd y gwaith. Y cyfnod mwyaf y gellir gwneud cais am arian ar ei gyfer yw 24 mis.
Yr arian sydd ar gael
- Mae cronfa ariannu o tua £1.95m ar gael ar gyfer yr alwad a arweinir gan ymchwil (cyfanswm o £2.7m yn flynyddol, gan gynnwys £750k ar gyfer yr alwad â ffocws). Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn disgwyl ariannu tua phedwar i wyth prosiect ar draws y ddwy gangen ym mhob galwad.
- O fewn y gronfa ariannu gyffredinol, nid oes cyfyngiad ar feintiau uchaf nac isaf y dyfarniadau, er y dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o gyfanswm yr arian sydd ar gael a disgwyliadau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ynghylch nifer y prosiectau y mae’n debygol o’u hariannu.
Meini prawf asesu Cam 1
Bydd angen i bob ymgeisydd gyflwyno achos cryf dros yr angen am ei gynnig ymchwil a’i bwysigrwydd yng Ngham 1, mewn perthynas â pholisi, ymarfer ac angen cyhoeddus.
Bydd hyn yn cynnwys:
- disgrifiad clir o’r angen iechyd neu ofal y mae’n mynd i’r afael ag ef
- gosod yr ymchwil arfaethedig yn y cyd-destun polisi neu ymarfer priodol
- cyfiawnhad dros bwysigrwydd yr angen hwnnw, o ran maint y broblem a/neu’r effaith debygol ar y rhai sydd ag angen iechyd neu ofal
- dangos bwlch yn y dystiolaeth ymchwil
- dangos bod y dulliau a gynigir yn addas ar gyfer ateb y cwestiwn ymchwil.
Sylwch fod cyfranogiad cryf gan y cyhoedd wrth ddatblygu’r cais ymchwil a chyflawni’r prosiect yn cael ei ystyried yn un o’r rhagofynion o ran ariannu.
Meini prawf asesu Cam 2
Bydd angen i ymgeiswyr a wahoddir i gyflwyno cais Cam 2 nodi eu cynllun ymchwil a’u methodoleg yn fanwl. Bydd y cais yn cael ei asesu ar sail ei ansawdd gwyddonol, a bydd y Bwrdd Ariannu yn ystyried:
- A yw’r fethodoleg a’r wyddoniaeth yn gadarn
- A yw’n dangos yn glir bod y cymysgedd sgiliau, profiad, rheoli prosiectau a’r seilwaith angenrheidiol ar waith i gwblhau’r prosiect yn llwyddiannus
- A yw’r cyfraddau recriwtio amcangyfrifedig wedi’u hesbonio’n dda a’u cyfiawnhau
- A yw goblygiadau moesegol, cyfreithiol a chymdeithasol yr ymchwil arfaethedig wedi cael eu hystyried
- A oes tystiolaeth o gyfranogiad y cyhoedd/ymarferydd wrth ddylunio a chyflwyno’r prosiect
- A yw costau’r ymchwil yn cynrychioli gwerth da am arian.
Sylwch fod y meini prawf uchod yn ganllaw ar gyfer asesu, ac ni fydd y drafodaeth wedi’i chyfyngu i’r meysydd hyn.
Proses asesu
Mae dwy gangen y Cynllun Ariannu Integredig yn defnyddio proses ymgeisio dau gam.
- Bydd pob cais (amlinellol) Cam 1 yn destun gwiriadau cymhwystra a chystadleurwydd* sylfaenol i sicrhau bod ceisiadau o fewn cylch gwaith yr alwad a’r cynllun a’u bod yn addas i symud ymlaen i gael eu hasesu.
- Bydd ceisiadau Cam 1 yn cael eu hasesu gan banel yn cynnwys aseswyr cyhoeddus, polisi, ymarfer ac academaidd a fydd yn adolygu ceisiadau o ran angen a phwysigrwydd (yn erbyn y meini prawf a nodir yn yr adran ‘Meini prawf asesu Cam 1’ uchod)).
- Bydd panel Cam 1 yn cynghori Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ba geisiadau a ddylai symud ymlaen i Gam 2. Dim ond ymgeiswyr y caiff eu cais Cam 1 ei flaenoriaethu ar sail pwysigrwydd y cwestiwn a chyda methodoleg digon cadarn a wahoddir i gyflwyno cais (llawn) Cam 2.
- Caiff cynigion Cam 2 eu gwirio ar gyfer cylch gwaith a chystadleurwydd* a bydd y rhai y tybir eu bod yn gystadleuol yn destun adolygiad gan gymheiriaid gwyddonol (a chyhoeddus) ac asesiad annibynnol gan y Bwrdd Ariannu. Mae’r Bwrdd Ariannu yn gwneud argymhellion ariannu i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn seiliedig ar ansawdd gwyddonol/academaidd y cais (yn erbyn y meini prawf a nodir yn yr adran ‘Meini prawf asesu Cam 2’ uchod).
*Sylwch: Ystyr ‘Ddim yn gystadleuol’ yw nad yw cais o safon digon da neu nad yw wedi’i gwblhau’n ddigon da i fynd ymlaen i gael ei asesu ymhellach.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r ffurflen gais ar gael yn nogfennaeth y cynllun.
Mae fersiwn Word o’r ffurflen gais ar gyfer cyfeirio ati’n unig. Bwriedir iddi fod yn ganllaw yn unig i helpu i gwblhau’r ffurflen gais ar-lein. Ni chaiff fersiynau Word o ffurflenni cais wedi’u cwblhau eu derbyn.
Hysbysiad preifatrwydd
Mae Hysbysiad Preifatrwydd Grantiau Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a roddir ar y cam ymgeisio.
Cysylltu â ni
+44 (0) 2070 190 200
Caiff galwadau a negeseuon e-bost eu monitro rhwng 09:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, heb gynnwys gwyliau banc.
Cynlluniau Cyllid Integredig - Canllawiau i ymgeiswyr
Integrated Funding Scheme FAQs (pdf)
Stage 1 guidance notes (pdf)
Stage 2 guidance notes (pdf)
Finance guidance (pdf)
Stage 1 – application form template (docx)
Stage 2 - application form template (docx)
- Panelau'r Cynllun Cyllid Integredig a byrddau ariannu
Integrated Funding Scheme Call 1 Stage 1 panel members (pdf)
Integrated Funding Scheme Call 1 Stage 2 board members (pdf)
Integrated Funding Scheme Call 2 Stage 1 panel members (pdf)
- Cofnodion cyhoeddus y Cynllun Cyllid Integredig
Integrated Funding Scheme Call 1 Stage 1 public minutes (pdf)
Integrated Funding Scheme Call 2 Stage 1 public minutes (pdf)
Cynllun Ariannu Integredig Ffoniwch 3 munud cyhoeddus Cam 1 (pdf)