logo

Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd

Cynnwys y cyhoedd gwell ar gyfer ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gwell.

Datblygwyd Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd trwy bartneriaeth ledled y DU, dros dair blynedd. Eu nod yw gwella’r ffordd o gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil trwy hybu arferion da fel hyblygrwydd, rhannu gwybodaeth a pharch.

Mae’r safonau hyn ar gyfer pawb sydd a wnelo ag ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Bu dros 40 o unigolion, grwpiau a sefydliadau’n eu rhoi ar brawf yn ystod rhaglen beilot a barodd am flwyddyn. Mae dilyn y safonau hyn yn darparu cyfarwyddyd a sicrwydd i gyflawni’r arferion cynnwys y cyhoedd gorau posibl.

Ewch i  wefan  Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd i gael rhagor o wybodaeth.

Blue Cog Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd 

Purple Cog Safonau i helpu’r cyhoedd i fod yn rhan o ymchwil - hawdd ei ddarllen 

Pink Cog Taflen crynodeb ddwyieithog o’r chwe safon wedi’i chynhyrchu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Os hoffech chi gael copi caled, yna cysylltwch â’r tîm cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn cynnwys-ymchwil@wales.nhs.uk

Orange Cog Powerpoint ar Safonau'r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd

Green Icon Llawlyfr yn dangos safonau ar waith - erthygl newyddion a dolen i'r llawlyfr

Blue Cog Safonau'r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd – pecyn hyfforddi i Gymru 2021

 

Logo Banner