Pum Swyddog Ymchwil arall yn ymuno â rhestr gynyddol o Ymarferwyr Ymchwil Glinigol ledled Cymru
23 Hydref
Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, mae pum Swyddog Ymchwil newydd wedi ymuno â’r rhestr gynyddol o Ymarferwyr Ymchwil Glinigol achrededig ledled Cymru, gyda nifer ohonynt yn dod yn Ymarferwyr Ymchwil Glinigol achrededig cyntaf https://healthandcareresearchwales.org/about/news/first-accredited-clinical-research-practitioner-waleseu bwrdd iechyd.
Mae llawer o weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd yn gweithio mewn rolau cyflawni ymchwil ac maent yn rhan hanfodol o dimau ymchwil ledled Cymru. Fodd bynnag, tan i’r cynllun ymarferwyr ymchwil glinigol ddechrau, nid oedd unrhyw lwybr addysg a hyfforddiant ffurfiol.
Cafodd y cynllun, a gefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ei gyflwyno yn 2021 gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal i wella hunaniaeth broffesiynol staff cyflawni ymchwil a datblygu llwybr gyrfa clir iddynt. Ei nod yw trawsnewid triniaeth a gofal yn y GIG drwy ymchwil, yn ogystal â sicrhau bod ymchwil yn fwy gweladwy i’r cyhoedd, ac mae’n rhan o nod ledled y DU i gynyddu nifer yr Ymarferwyr Ymchwil Glinigol i 2000 yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Dyma’r pum Ymarferydd Ymchwil Glinigol sydd newydd eu hachredu:
-
Claire Watkins, Swyddog Ymchwil, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
-
Ronda Loosley a Charlotte Jones, Swyddogion Ymchwil, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
-
Jenna Davies ac Ellen Turrell, Swyddogion Ymchwil, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Mae Claire Watkins yn gweithio yn y Ganolfan Ymchwil Glinigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam a hi yw’r Ymarferydd Ymchwil Glinigol achrededig cyntaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dywedodd hi:
Rydw i wedi gweithio ym maes cyflawni ymchwil ers 14 mlynedd ac i mi, achrediad yw'r eisin ar y gacen, ffordd o gadarnhau'r hyn rydych chi'n ei wneud i gleifion.
Nawr gall Ymarferwyr Ymchwil Glinigol ddangos i gleifion, cydweithwyr a chyflogwyr eu bod yn gymwys, yn ddibynadwy ac wedi ymrwymo i gyflawni safonau uchel o ymddygiad personol ac ymarfer technegol fedrus. Mae’r teitl ymarferydd yn ei gwneud hi’n haws i gleifion ddeall beth rydyn ni’n ei wneud mewn lleoliad clinigol.”
Jenna Davies ac Ellen Turrell yw’r Ymarferwyr Ymchwil Glinigol cyntaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Meddai Jenna, sy’n gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Canser De-orllewin Cymru yn Ysbyty Singleton,
Mae’n bwysig bod swyddogion ymchwil fel ni yn cael yr un gydnabyddiaeth â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, o fewn timau ymchwil ac yn y gwasanaeth gofal iechyd yn ehangach.
Mae cael yr achrediad hwn wedi helpu i ffurfioli ein rôl ac mae’n dangos pa mor gysylltiedig ydym ag ochr glinigol ymchwil, yn gweld cleifion ac yn ymgymryd â gwaith ymarferol, yn hytrach na bod y tu ôl i’r llenni yn unig."
Dywedodd Ellen Turrell fod y broses ymgeisio yn dod â swyddogion ymchwil a darpar Ymarferwyr Ymchwil Glinigol ledled Cymru ynghyd i gefnogi ei gilydd. Dywedodd:
Mae rhan o’r cynllun yn cynnwys myfyrio ar ein gwaith a chasglu arsylwadau ac adborth gan ein cydweithwyr a’n rheolwyr. Roedd yn ddefnyddiol iawn mynd drwy’r broses gyda’n gilydd a chael cyngor ac anogaeth gan swyddogion ymchwil eraill a oedd yn gwneud cais drwy grwpiau cymorth ar-lein."
Dywedodd Ronda Loosley, sy’n gweithio yn y Ganolfan Ymchwil Glinigol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, fod dod yn Ymarferydd Ymchwil Glinigol achrededig wedi rhoi dilysiad ychwanegol iddi hi:
Roeddwn i eisiau gweithio tuag at y cofrestriad hwn i ddilysu fy rôl. Rwyf i, a’r tîm yn yr adran, yn arbenigwyr ym maes cyflawni ymchwil ac mae cael achrediad yn rhoi cydnabyddiaeth broffesiynol i ni ymhlith ein cyfoedion wrth helpu i hwyluso rhywfaint o’r ymchwil fwyaf anhygoel sy’n digwydd yng Nghymru.”
Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd y pum Ymarferydd Ymchwil Glinigol y byddent yn argymell y cynllun i Swyddogion Ymchwil eraill ledled Cymru. Ychwanegodd Charlotte Jones, sy’n gweithio yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli, fod y cynllun achredu Ymarferwyr Ymchwil Glinigol yn
ffordd wych o ddatblygu’n broffesiynol, o deimlo cefnogaeth a bod yn rhan o grŵp achrededig o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae’n gosod nodau ac yn caniatáu i gyflawniadau gael eu cofrestru a chyfrannu tuag at eich datblygiad."
Dywedodd Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflawni Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru,
Mae Ymarferwyr Ymchwil Glinigol yn aelodau hanfodol o’n gweithlu ymchwil, yn cefnogi’r gwaith o gyflawni ymchwil glinigol effeithiol o ansawdd uchel. Mae’r cynllun achredu yn helpu i godi statws proffesiynol Ymarferwyr Ymchwil Glinigol, yn cydnabod y cyfraniadau maen nhw’n eu gwneud ac yn sicrhau y gallan nhw fanteisio ar gyfleoedd datblygu proffesiynol perthnasol a phriodol. Rwy’n falch iawn o longyfarch y rhai sydd wedi’u hachredu ac rwy’n edrych ymlaen at weld mwy o Ymarferwyr Ymchwil Glinigol ledled Cymru."
Dysgwch fwy drwy ddarllen am yr Ymarferwyr Ymchwil Glinigol achrededig cyntaf yng Nghymru a darllenwch am brofiad Lucy Hill o weithio tuag at achrediad Ymarferydd Ymchwil Glinigol fel Uwch Swyddog Ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.