Victoria Shepherd yn trafod poster gyda chynadleddwr cynhadledd

Cynlluniau Cymrodoriaeth Ddoethurol a Chymrodoriaeth Uwch - nawr ar agor

6 Hydref

Mae'r cynllun hwn bellach ar gau ar gyfer ceisiadau.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd yr alwad am geisiadau i’r Cynllun Cymrodoriaeth Ddoethurol a’r Cynllun Cymrodoriaeth Uwch yn agor ar 19 Hydref.

Mae’r cymrodoriaethau’n cynnig hyd at dair blynedd o gyllid llawn-amser (neu bedair neu bum mlynedd o gyllid rhan-amser) i unigolion.

Gwahoddir ceisiadau gan y rhai sy’n gweithio ar draws unrhyw ddisgyblaeth sy’n ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol i wneud ymchwil a fydd o fudd i ddefnyddwyr gwasanaethau a/neu ofalwyr, a gwasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth yng Nghymru.

Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o ymrwymiad clir i yrfa ymchwil a dylent ddangos sut y bydd y dyfarniad yn cefnogi eu potensial i ddod yn ymchwilydd annibynnol.

Mae’r cynllun Cymrodoriaeth yn cynnig cyfleoedd cyllido ar draws ystod eang o bynciau sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol. Er bod pob cais sy’n bodloni telerau cyffredinol yr alwad yn gymwys, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn rhoi pwyslais ar bolisi, ymarfer ac anghenion y cyhoedd. Bydd angen i bob ymgeisydd gyflwyno achos cryf dros yr angen am eu cynnig ymchwil a phwysigrwydd y cynnig ymchwil hwnnw.

Bydd hyn yn cynnwys: 

  • disgrifiad clir o'r angen iechyd neu ofal y mae’n mynd i'r afael ag ef; 
  • gosod yr ymchwil a gynigir yn y cyd-destun polisi neu ymarfer priodol; 
  • cyfiawnhad dros bwysigrwydd yr angen hwnnw, o ran maint y broblem a/neu’r effaith debygol ar y rhai sydd ag angen iechyd neu ofal;
  • dangos bwlch yn y dystiolaeth ymchwil; 
  • dangos bod y dulliau a gynigir yn addas ar gyfer ateb y cwestiwn ymchwil.