Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi bod galwad newydd am geisiadau i’r cynllun Cymrodoriaeth Uwch bellach ar agor.

Bydd y cynllun hwn yn cau i geisiadau ddydd Mercher 15 Ionawr 2025 am 16:00.

Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried.

Gwnewch gais nawr gan ddefnyddio System Rheoli Dyfarniadau'r Gyfadran


Cylch gwaith yr alwad

Nod y Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch yw cefnogi unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol drwy arwain a chynnal ymchwil o ansawdd uchel.

Mae'r gymrodoriaeth yn cynnig hyd at 3 blynedd o gyllid llawn amser, neu hyd at 6 blynedd o gyllid rhan-amser, i unigolion sydd wedi derbyn eu PhD (erbyn y cyfweliad fan bellaf) ac nad oes ganddynt swydd ar lefel Athro ar yr adeg y byddant yn gwneud cais.

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy'n gweithio ar draws unrhyw ddisgyblaeth sy'n ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol i ymgymryd ag ymchwil a fydd o fudd i'r cyhoedd, y gwasanaeth iechyd, ymarfer neu bolisi, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, neu wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth yng Nghymru. 

Dylai fod yn amlwg bod elfen ymchwil y Gymrodoriaeth Uwch yn berthnasol i’r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol, gofalwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi. Dylai'r ymchwil ddarparu tystiolaeth gadarn i gefnogi trefnu a darparu gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol yn effeithlon ac yn effeithiol yng Nghymru, a/neu wella lles defnyddwyr gwasanaethau neu ofalwyr.

Gellir ymgorffori synthesisau tystiolaeth a meta-ddadansoddiadau o fewn ceisiadau.  Mae prosiectau sy'n canolbwyntio ar dreialu a gwaith dichonoldeb, neu gamau cynnar datblygu ymyrraeth lle bydd gwybodaeth o'r astudiaethau rhagarweiniol hyn yn llywio astudiaethau ar raddfa fwy yn y dyfodol, yn gymwys.   

Disgwylir i bob ymgeisydd fynegi'n glir yr effaith y mae ei ganfyddiadau yn debygol o’i chael yn y tymor byr i'r tymor canolig, ac egluro sut y bydd y rhain o fudd i’r cyhoedd, i les defnyddwyr gwasanaethau/gofalwyr neu o ran darparu gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol.

Angen a phwysigrwydd

Mae’r cynllun Cymrodoriaeth Uwch yn cynnig cyfleoedd cyllido ar draws ystod eang o bynciau iechyd a gofal cymdeithasol. Er bod pob cais sy'n bodloni telerau cyffredinol yr alwad yn gymwys, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn rhoi pwyslais ar bolisi, ymarfer ac angen y cyhoedd. Bydd angen i bob ymgeisydd gyflwyno achos cryf dros bwysigrwydd y cynnig ymchwil a’r angen amdano.

Bydd hyn yn cynnwys:  

  • disgrifiad clir o'r angen iechyd neu ofal maent yn mynd i'r afael ag ef;  
  • gosod yr ymchwil a gynigir yn y cyd-destun polisi neu ymarfer priodol; 
  • cyfiawnhad o bwysigrwydd yr angen hwnnw, o ran maint y broblem a/neu’r effaith debygol ar y rhai sydd â'r angen iechyd neu ofal;  
  • dangos bwlch yn y dystiolaeth ymchwil 
  • dangos bod y dulliau a gynigir yn addas ar gyfer ateb y cwestiwn ymchwil. 

Cymhwysedd 

Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol:  

  • Rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u lleoli mewn sefydliad yng Nghymru ar yr adeg y byddant yn gwneud cais (neu dylent fod wedi cael cynnig swydd a fydd yn golygu y byddant yn cael eu cyflogi gan sefydliad sy’n lletya yng Nghymru ar yr adeg y bydd y Gymrodoriaeth yn dechrau)
  • Bydd angen i ymgeiswyr allu ymgymryd â'u dyfarniad am hyd at dair blynedd (llawn amser) neu hyd at chwe blynedd (rhan-amser) gyda Chyfwerth ag Amser Cyflawn (WTE) o rhwng 50% (isafswm) a 100% (uchafswm) (llawn amser). Ni fydd cost y dyfarniad cyfan yn fwy na £600,000 
  • Rhaid i ymgeiswyr feddu ar PhD ymchwil
  • Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd wedi cyflwyno eu traethawd ymchwil PhD, neu gyfwerth, i'w sefydliadau i'w hasesu, ar yr amod eu bod wedi derbyn eu PhD erbyn y cyfweliad
  • Ni ddylai ymgeiswyr fod mewn swydd ar lefel Athro ar yr adeg y byddant yn gwneud cais.
  • Mae unigolion yn gymwys i gael hyd at ddwy Gymrodoriaeth Uwch yn olynol, heb fod yn fwy na 6 blynedd 100% WTE o gyllid fel arfer
  • Rhaid i ymgeiswyr gael eu cefnogi gan fentor academaidd a enwir
  • Rhaid i ymgeiswyr fod mewn sefyllfa i ddechrau gweithgareddau erbyn 1 Hydref ym mlwyddyn berthnasol y dyfarniad
  • Rhaid i geisiadau gael cefnogaeth y Sefydliad sy’n Lletya ac unrhyw sefydliad arall sy'n rhan annatod o gyflawni'r ymchwil
  • Rhaid i geisiadau gynnwys rhaglen hyfforddi a datblygu clir a chynhwysfawr
  • Gall ymgeiswyr sy'n gwneud cais am Gymrodoriaeth amser llawn sy'n glinigwyr neu’n ymarferwyr gweithredol neilltuo cyfran briodol o'r amser i sicrhau bod cymwyseddau clinigol neu ymarfer yn cael eu cynnal
  • Gall ymgeiswyr fod wedi cael dau ddyfarniad ôl-ddoethurol blaenorol pan fyddant yn gwneud cais i'r cynllun hwn

Meini Prawf Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu dyfarnu yn seiliedig ar botensial yr ymgeisydd fel ymchwilydd a’i lwybr fel ymchwilydd, ansawdd yr ymchwil a gynigir a'r cymorth academaidd a sefydliadol, a'r rhaglen hyfforddi a datblygu a gynigir. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o berthnasedd i'r cyhoedd a/neu’r gymuned o ddefnyddwyr gwasanaethau; dichonoldeb cymhwysiad ymarferol; budd tebygol a gwerth am arian. Rhaid i ymgeiswyr hefyd gyfiawnhau’n glir briodoldeb a chadernid a dangos trylwyredd o ran methodoleg a chynllunio. Nod y broses adolygu cymheiriaid yw defnyddio'r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaethau, ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac adolygwyr academaidd yn y Panel a bydd yn ceisio adolygiad arbenigol y tu allan i'r Panel yn ôl yr angen.

Bydd angen i'r ymgeisydd ddisgrifio sut y bydd yn adrodd ar ganfyddiadau disgwyliedig yn y fath fodd fel bod canlyniadau'r ymchwil yn agored i archwiliad beirniadol gan gymheiriaid. Mae allbynnau o'r cynllun yn debygol o fod ar ffurf cyhoeddiadau academaidd a adolygir gan gymheiriaid, a chyhoeddiadau neu allbynnau eraill sydd wedi'u cynllunio i gyrraedd cynulleidfa eang o ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Disgwylir i allbynnau ddylanwadu ar y ffyrdd y caiff gwasanaethau iechyd a/neu ofal cymdeithasol eu darparu.

Bydd ceisiadau'n destun archwiliad i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chylch gwaith ac amodau cymhwysedd y cynllun. Bydd yr holl geisiadau y bernir eu bod yn gymwys yn cael eu hadolygu ar gyfer arwyddocâd a pherthnasedd polisi. Bydd hyn yn cynnwys asesiad o berthnasedd y cais i bolisi ehangach Llywodraeth Cymru ac asesiad o'r adran angen a phwysigrwydd. Bydd ceisiadau na fyddant yn mynd y tu hwnt i'r brysbennu cychwynnol hwn yn cael eu hysbysu yn ysgrifenedig.   

Bydd ceisiadau sy'n pasio'r cam brysbennu yn cael eu hadolygu gan Banel Llunio Rhestr Fer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a fydd yn asesu ansawdd cyffredinol a theilyngdod y cais, yr ymgeisydd a'r amgylchedd lletya ymchwil arfaethedig ynghyd â'r rhaglen hyfforddi a datblygu. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad gyda'r Panel.

Bydd y Panel yn gwneud argymhellion cyllido i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Llywodraeth Cymru). Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Llywodraeth Cymru) yn gwneud y penderfyniadau cyllido terfynol, gan ystyried cryfder argymhellion y Panel a'r adnoddau sydd ar gael. Mae'r penderfyniadau hyn yn derfynol ac nid oes modd apelio yn eu herbyn. 

Mae Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn disgwyl rhoi gwybod i bob ymgeisydd am y canlyniad ym mis Mehefin 2025.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Nodiadau Cyfarwyddyd ar gyfer yr alwad.

Proses Asesu

Mae'r broses asesu fel a ganlyn: 

  • Caiff pob cais ei adolygu i ddechrau i wirio a yw’n dod o fewn cylch gwaith yr alwad a’r rhaglen ac i nodi unrhyw rai y mae’n amlwg nad ydynt yn gystadleuol*. 
  • Caiff ceisiadau eu blaenoriaethu gan y Panel Llunio Rhestr Fer yn seiliedig ar y meini prawf asesu ar gyfer y cyllid
  • Bydd ceisiadau ar y rhestr fer yn cael eu hanfon allan i’w hadolygu gan y cyhoedd ac arbenigwyr allanol lle bernir bod hyn yn angenrheidiol cyn i'r ymgeisydd gael ei alw am gyfweliad gan y Panel
  • Gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cwestiynau gan y Panel
  • Mae'r Panel yn gwneud argymhellion cyllido i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

*Ystyr ‘Ddim yn Gystadleuol' yw nad yw’r cynnig o safon digon uchel i fynd ag ef ymlaen i'w asesu ymhellach o'i gymharu â’r cynigion eraill a dderbyniwyd, oherwydd does fawr ddim gobaith, os o gwbl, y caiff ei gyllido. Gall hyn fod oherwydd ansawdd gwyddonol, cost, maint/amser, neu gyfansoddiad tîm y prosiect.


Crynodeb o'r broses o wneud cais ar gyfer Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch**:

Nodir y dyddiadau allweddol ar gyfer ymgeiswyr isod.

Lansio’r gystadleuaeth: 17 Hydref 2024

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 16:00 – 15 Ionawr 2025

Panel llunio rhestr fer: Mawrth 2025 (dyddiad i’w gadarnhau)

Bwrdd cyfweld: Mai 2025 (dyddiad i’w gadarnhau)

**Sylwer: gall y dyddiadau hyn newid

Pwysig: Un o’r amodau cyllido yw y bydd disgwylir i bob cymrodoriaeth lwyddiannus ddechrau ar 1 Hydref 2025. Dylech sicrhau bod hyn yn rhan o'ch cynllun cymrodoriaeth gan mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y bydd estyniadau i'r dyddiad dechrau yn cael eu hystyried.


Canllawiau ar yr alwad

Templedi

Dylai'r ffurflen gais gael ei llenwi gan ddefnyddio System Rheoli Dyfarniadau Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Sylwch y bydd gofyn i lofnodwyr awdurdodedig gadarnhau cyfranogiad yn ystod y broses ymgeisio, felly dylid rhoi digon o amser iddynt ymateb cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau. 

Cysylltu â ni

Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau neu os byddwch chi’n cael unrhyw broblemau wrth baratoi eich cynnig, cyfeiriwch at y dogfennau cyfarwyddyd a ddarparwyd ar gyfer yr alwad. Gallwch chi hefyd gysylltu â'r tîm drwy e-bost.


Cymorthfeydd Dyfarniadau Cymrodoriaeth

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am y Dyfarniad Cymrodoriaeth Ddoethurol neu Uwch, gofynnwch i'r tîm yn un o'r cymorthfeydd:

  • Dydd Mercher 7 Tachwedd 14:00 – 15:00 - LLAWN
  • Dydd Mercher 20 Tachwedd 14:00 – 15:00
  • Dydd Mercher 27 Tachwedd 14:00 – 15:00 - LLAWN

I archebu eich lle mewn meddygfa cwblhewch y ffurflen gofrestru


Hysbysiad preifatrwydd

Mae hysbysiad preifatrwydd grantiau Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir ar y cam ymgeisio.


Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, o 17 Hydref 2024, yn trosglwyddo i ddefnyddio System Rheoli Dyfarniadau newydd a'r ymgeiswyr ar gyfer y Cymrodoriaethau Uwch a Doethurol nesaf fydd y grŵp cyntaf i ddefnyddio'r system newydd hon.

O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd y Gyfadran yn gweinyddu'r holl alwadau newydd gan ddefnyddio'r System Rheoli Dyfarniadau a bydd yn dechrau symud rheolaeth holl ddyfarniadau personol presennol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i'r system hon o fis Ionawr 2025.

Rydym yn rhagweld y bydd y System Rheoli Dyfarniadau newydd yn hwyluso prosesau mwy effeithlon ar gyfer y Gyfadran a fydd o fudd i'n hymgeiswyr a'n haelodau ac yn ein helpu i wella'r gefnogaeth i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y system newydd, cysylltwch â thîm y Gyfadran a fydd yn hapus iawn i helpu.

 

Ar agor

Cysylltu â ni

Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau neu os byddwch chi’n cael problemau wrth baratoi eich cynnig, cyfeiriwch at y dogfennau canllaw ar yr alwad a ddarperir. Gallwch chi hefyd gysylltu â’r tîm drwy e-bost: Research-Faculty@wales.nhs.uk

 

Cymorthfeydd Dyfarniadau'r Gymrodoriaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Dyfarniad Doethuriaeth neu Uwch Gymrodoriaeth, gofynnwch i'r tîm yn un o'r cymorthfeydd:

  • Dydd Mercher 23 Hydref 10:00 – 11:00 - LLAWN
  • Dydd Mercher 20 Tachwedd 14:00 – 15:00
  • Dydd Mercher 27 Tachwedd 14:00 – 15:00 - LLAWN

I gadw lle mewn cymorthfa e-bostiwch y tîm