Dr Bethan Griffiths
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil (2023 - 2025)
Cwrs: Master's in Public Health
Bywgraffiad
Mae Bethan yn gweithio fel meddyg teulu cyflogedig yng Nglynebwy. Derbyniodd Ddyfarniad Hyfforddiant Ymchwil i gwblhau gradd meistr mewn iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda'r nod o ddatblygu'r sgiliau i ddechrau ymchwil sy'n mynd i'r afael ag annhegwch iechyd yng Nghymru.
Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn gofal iechyd cynaliadwy a'r agenda Iechyd Cyfunol, yn enwedig o ran bwyd a systemau bwyd. Mae hi'n aelod gweithgar o Iechyd Gwyrdd Cymru ac ar hyn o bryd mae'n gweithio fel Hyrwyddwr Hinsawdd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Darllen mwy am Bethan a’u gwaith:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi ymchwilwyr yn y rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau