Nicki Palmer
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil (2023 - 2025)
Cwrs: MSc Clinical Trials and MSc Health Research Methods
Bywgraffiad
Mae Nicki Palmer yn Nyrs Gofrestredig gyda chefndir clinigol helaeth mewn Gofal Critigol. Ers 2008 mae hi wedi bod yn helpu i ysgogi ansawdd a chanlyniadau gofal mewn gwahanol rolau nyrs ymchwil. Mae hi wedi gweithio gyda nifer o arbenigeddau gan gynnwys Gofal Critigol, Llawfeddygaeth y Colon a’r Rhefr ac, ers 2018, mae hi wedi bod yn hwyluso ymchwil i Hepatitis C gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn y rôl heriol ond gwerth chweil hon, mae'n gweithio'n uniongyrchol gyda chymunedau na chaiff eu gwasanaethu'n ddigonol, yn enwedig pobl sy'n camddefnyddio sylweddau, sy'n profi digartrefedd ac sy’n cael eu hymyleiddio mewn cymdeithas.
Mae rôl Nicki yn caniatáu iddi ddangos ei hangerdd dros ymestyn cyfleoedd ymchwil i gleifion, a gyda hynny, y manteision y gall cyfranogiad eu cynnig. Drwy weithio gyda phobl na fyddai fel arfer yn cael llawer o gyfleoedd i ymgysylltu, mae Nicki yn helpu i addysgu a grymuso pobl wrth ysgogi nodau iechyd cyhoeddus ehangach.
Mae Nicki yn ymgymryd ag MSc mewn Treialon Clinigol gyda Phrifysgol Caeredin ac mae hi wedi ennill Gwobr Hyfforddiant Ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn 2023.
Darllen mwy am Nicki a’u gwaith:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi ymchwilwyr yn y rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau