Edrych yn ôl ar sut mae ein cynllun gweithredu “Darganfyddwch Eich Rôl” wedi datblygu ymgysylltiad y cyhoedd ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Gyda lansiad Mae Ymchwil yn Bwysig, cynllun tair blynedd uchelgeisiol ac eang Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i barhau i adeiladu ar y momentwm a welwyd yn y gymuned ymchwil yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, rydym yn edrych yn ôl ar lwyddiannau a heriau ein gwaith cynnwys y cyhoedd dros y tair blynedd diwethaf, a'r gwersi gwerthfawr y byddwn yn eu defnyddio yn y dyfodol.
Yn ystod hydref 2019, cychwynnodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gynllun i ddatblygu strategaeth ymgysylltu a chynnwys y cyhoedd a fframwaith trosfwaol ar gyfer ein gweithgareddau. Cafodd y cynllun gweithredu hwn, dan y teitl “Darganfyddwch eich Rôl”, ei greu drwy gydweithio agos rhwng cyfranwyr cyhoeddus, arweinwyr cynnwys y cyhoedd, ymchwilwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru. Wedi’i gyhoeddi ym mis Ionawr 2021, dyluniwyd y cynllun hwn i fapio’r tair blynedd nesaf o waith cynnwys y cyhoedd i’w wneud gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hyd at fis Mawrth 2024.
Mae nodau rhyng-gysylltiedig “Darganfyddwch Eich Rôl” wedi cynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad y cyhoedd yn sylweddol yng nghymuned Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Dechreuodd y fenter hon gyda sefydlu ein Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd. Drwy feithrin trafodaethau, cymorth gan gymheiriaid a sesiynau arfer gorau ymhlith aelodau’r cyhoedd mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid eraill, rydym wedi gwella rôl ein haelodau cyhoeddus wrth gynllunio digwyddiadau sy’n cymryd golwg gyfannol ar ein cymuned, gan sicrhau cynrychiolaeth i leisiau pob rhanddeiliad.
Mae cyfranwyr cyhoeddus bellach yn cymryd rhan weithredol yn strwythurau llywodraethu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a, gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, rydym yn annog mwy o aelodau o’r cyhoedd i ymuno â’n cymuned i gynorthwyo gyda’r gwaith hwn.
Er mwyn sicrhau cefnogaeth ein rhanddeiliaid, rydym bellach yn ei gwneud yn ofynnol i bob cais am gyllid amlinellu cynlluniau cynnwys y cyhoedd drwy ddefnyddio Safonau'r DU ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd fel fframwaith. Mae hyn yn sicrhau tryloywder wrth weithredu cyfranogiad y cyhoedd yn y prosiectau a ariannwn.
Fel rhan o'n hymrwymiad i symleiddio ein gwaith cynnwys y cyhoedd, rydym wedi datblygu canllawiau talu newydd ar gyfer rhanddeiliaid ar y cyd â grŵp Pum Gwlad y DU, er mwyn lleihau rhwystrau gweinyddol i gyfranogiad. Yng Nghymru, rydym ar flaen y gad o ran datblygu fersiwn o’r canllawiau hyn i’r cyhoedd. I gefnogi rhanddeiliaid gyda’r disgwyliadau newydd hyn, rydym wedi curadu cyfres o adnoddau hyfforddi ar-lein, gan gynnig ffordd gynaliadwy a chost-effeithiol o ddarparu hyfforddiant ar gyfer cynnwys y cyhoedd yn fwy effeithiol mewn ymchwil.
Mae'r dull integredig hwn yn ymestyn i'n strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd newydd, "Ble fydden ni heb ymchwil?". Cydweithiodd cyfranwyr cyhoeddus, ymchwilwyr a staff Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i greu’r ymgyrch aml-lwyfan hon, gan gynnwys digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, cynnwys digidol a chyfres podlediad. Nod y strategaeth ymgysylltu yw cynyddu ymwybyddiaeth o ymchwil ac annog cyfranogiad y cyhoedd o'r gwaelod i fyny.
Rydym wedi mynd ati i werthuso a darparu adborth drwy gydol cynnydd y cynllun gweithredu "Darganfyddwch Eich Rôl" i randdeiliaid, i weld beth sy'n mynd yn dda a beth y gellir ei wella. Drwy rannu ein canfyddiadau drwy flogiau gwefan, astudiaethau achos, a digwyddiadau cyhoeddus fel cynadleddau, rydym yn galluogi’r holl randdeiliaid i weld yr effaith gadarnhaol y mae cynnwys y cyhoedd wedi’i chael ar y gwaith rydym yn ei ariannu.
Gyda dechrau’r cynllun “Mae Ymchwil yn Bwysig” mae edrych yn ôl ar lwyddiannau a heriau “Darganfyddwch Eich Rôl” wedi ein galluogi i ddysgu gwersi gwerthfawr yr ydym yn mynd â nhw gyda ni ar y daith gyffrous hon. Rydyn ni eisiau i chi ymuno â ni yn ein hymdrechion felly cofrestrwch ar gyfer ein bwletin cyhoeddus heddiw i ganfod mwy.
Gwyliwch yr Athro Kieran Walshe ac Alex Newberry yn siarad am y "Darganfod eich Rôl" yn Fforwm Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd ym mis Tachwedd 2023