Darganfyddwch eich rôl
Yn 2020 cyhoeddodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gynllun gweithredu a oedd yn nodi sut i wella cyfranogiad ac ymgysylltiad y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Cafodd y cynllun hwn, o'r enw Darganfyddwch Eich Rôl mewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei greu mewn cydweithrediad ag aelodau o'r cyhoedd, ymchwilwyr a gweinyddwyr ymchwil, ac mae'n nodi camau i'w cymryd ar draws saith maes ffocws.
Gallwch ddarllen mwy am hyn ar ein blog post.
Mae'r maes ffocws cyntaf yn amlinellu'r angen am rwydwaith mwy cydlynol ar gyfer trafodaethau cynnwys y cyhoedd lle gall pobl rannu arfer da a chael cefnogaeth. O hyn, datblygwyd cynllun ar gyfer sefydlu fforwm ymgysylltu a chynnwys y cyhoedd i Gymru.
Mae sawl Fforwm bellach wedi digwydd ac mae manylion llawn y cyflwyniadau a'r trafodaethau gan bob Fforwm i'w gweld isod.
- Mawrth 2022
-
Cynigiodd Fforwm Mawrth 2022 gyfle i fyfyrio ar ddatblygiadau flwyddyn ar ôl cyhoeddi 'Cynllun Gweithredu Darganfod Eich Rôl mewn Ymchwil Iechyd a Gofal'. Cynhaliwyd panel trafod gyda sesiwn holi ac ateb a sesiwn ryngweithiol ar werthuso effaith y Cynllun Gweithredu.
- Tachwedd 2021
-
Ar 04 a 11 Tachwedd 2021 cynhaliwyd yr ail Fforwm ymgysylltu a chynnwys cyhoeddus llwyddiannus.
Roedd ffocws y Fforwm ar Faes Ffocws 2 - Sicrhau bod cyfranogiad y cyhoedd yn cael ei hyrwyddo a'i gefnogi ar lefelau uwch ar draws Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ranwyd yn 3 phwynt gweithredu:
Pwynt gweithredu 2.1 - Gosod disgwyliadau o amgylch rolau ymchwilwyr i hyrwyddo cyfranogiad y cyhoedd
Pwynt gweithredu 2.2 - Sicrhau bod cynrychiolaeth briodol gan aelodau'r cyhoedd ar lywodraethu lefel uchel Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Pwynt gweithredu 2.3 - Gwneud cysylltiadau ag addysg israddedig ac ôl-raddedig i hyrwyddo gwerth ymchwil a chynnwys y cyhoedd fel agwedd allweddol ar hyfforddiant
Mae cyflwyniadau o'r diwrnod isod:
Darganfod Eich Rôl mewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Meysydd Ffocws Cytunedig (PDF) Peter Gee
Hyfforddiant a Chanllawiau Cynnwys y Cyhoedd - Beth sydd ar gael? (PDF) Rebecca Burns
Trosolwg o'r strategaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd (PDF) Hannah Bertie
Prosiect y DU - Tâl i gyfranwyr cyhoeddus mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol (PDF) Reshma Raycoba
Hyrwyddo cyfranogiad ymchwil (PDF) Matthias Eberl
Cynnwys y cyhoedd mewn llunio strategaeth Cynnwys y Cyhoedd (PDF) Jeremy Segrott
- Mai 2021
-
Ar 11 a 13 Mai 2021, cynhaliodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’r Fforwm Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd cyntaf yn sgil lansio’r Fforwm yn llwyddiannus ar 26 Ionawr 2021.
Y themâu a drafodwyd oedd: cynnwys aelodau’r cyhoedd mewn blaenoriaethu ymchwil a chwestiynau ymchwil a sut y mae hyn yn effeithio ar bolisi ac arfer, yn ogystal â chlywed oddi wrth brosiect INCLUDE ynglŷn â phwy yw’r cymunedau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol a sut y gallwn ni sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth ac yn cael eu galluogi i gymryd rhan mewn ymchwil, yn ogystal ag oddi wrth ymchwilwyr sydd wedi llwyddo i ymgysylltu â’r cymunedau hyn.
Gallwch chi weld pob un o’r cyflwyniadau isod:
Y diweddaraf am y Fforwm
Yr hyn a ddywedoch chi wrthym ni – arolwg blaenoriaethu Darganfod Eich Rôl (PDF)
Reshma Raycoba, Pennaeth Cynnwys y Cyhoedd, Llywodraethu Ymchwil a Digidol y GIG (Dros dro), Llywodraeth Cymru
Datblygu Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PDF)
Felicity Walters, Pennaeth Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mynd i’r afael â rhwystrau gweinyddol (PDF)
Reshma Raycoba, Pennaeth Cynnwys y Cyhoedd, Llywodraethu Ymchwil a Digidol y GIG (Dros dro), Llywodraeth Cymru
Pynciau’r Fforwm 11 Mai
Sut mae’r cyhoedd yn cael eu cynnwys mewn blaenoriaethu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol (PDF)
Emma Small, Uwch Reolwr Blaenoriaethu a Lledaenu, Llywodraeth Cymru
Chris Kemp-Philip, Cyfrannwr Cyhoeddus
Mae Pobl Ifanc wrth galon gweithgareddau DECIPHer (PDF)
Peter Gee, Uwch Swyddog Cynnwys y Cyhoedd, DECIPHer
Beth sy’n bwysicaf i chi? Gosod blaenoriaethau ymchwil ar gyfer Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (PDF)
Yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
Natalie Joseph-Williams, Cydarweinydd Academaidd ar gyfer Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
Pynciau’r Fforwm 13 Mai
INCLUDE - Gwell gofal iechyd trwy ymchwil fwy cynhwysol (PDF)
Laurie Oliver, Pennaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, y Rhwydwaith Ymchwil Glinigol
Cyfleoedd a heriau wrth ymgysylltu â chymunedau ym mhrosiect Ganwyd yng Nghymru (PDF)
Hope Jones, Ymchwilydd Arweiniol, prosiect Ganwyd yng Nghymru
Ashra Khanom, Cyfrannwr Cyhoeddus
Solmaz Safari, Cyfrannwr Cyhoeddus
Treialon Siarad – Ymgysylltu i Gynnwys (PDF)
Martina Svobodova, Cydymaith Ymchwil a Rheolwr Treialon
Sudipta Bandyopadhyay, Cynorthwyydd Addysgu a Chydymchwilydd Treialon Siarad
Dr Catherine Lamont-Robinson, Artist-addysgwr yn y dyniaethau meddygol