Therapydd Iaith a Lleferydd yn creu’r côr cleifion mewnol cyntaf erioed yng Nghymru i helpu cleifion i ddod o hyd i’w llais ar ôl strôc
22 Ionawr
Mae Therapydd Iaith a Lleferydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyfuno ei hoffter o gerddoriaeth â therapi iaith i fynd ati, ar y cyd, i greu’r côr cleifion mewnol cyntaf erioed yng Nghymru i helpu cleifion i oresgyn eu heriau cyfathrebu ar ôl strôc.
O weithio ochr yn ochr â rhai o gerddorion gorau’r byd fel chwaraewr fiola proffesiynol yn Llundain i ddod yn therapydd lleferydd ac iaith, aeth Esther Goodhew, ar y cyd â Vicky Guise, ati i ystyried manteision posibl côr sy’n ystyriol o affasia, i helpu i roi llais pobl sydd wedi cael diagnosis o’r cyflwr yn ôl drwy gerddoriaeth.
Mae affasia yn gyflwr sy’n effeithio ar allu person i gyfathrebu. Fel arfer mae’n digwydd ar ôl niwed i’r ymennydd, yn aml yn sgil strôc neu anaf i’r pen. Gall pobl ag affasia ei chael hi’n anodd siarad, deall iaith, darllen neu ysgrifennu.
Mae ymchwil eisoes wedi dangos pa mor werthfawr y gall sesiynau adsefydlu cymunedol yn seiliedig ar ganu fod i bobl â Nam Cyfathrebu ar ôl Strôc (PSCI).
Dywedodd Esther, a dderbyniodd arian ar gyfer yr astudiaeth, sef Cymrodoriaeth Newydd i Ymchwil Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru (RCBC), ei bod hi wedi gweld gwerth cyfuno cerddoriaeth â therapi iaith ar ôl i un o aelodau ei theulu ddefnyddio’r gwasanaeth, gan ychwanegu: “Mae’n cyflwyno ffordd newydd o gyfathrebu i bobl ac rwy’n gweld cerddoriaeth fel agwedd arall ar gyfathrebu.”
Adroddodd staff yn y Tîm Strôc fod y côr yn gyfle i gryfhau’r berthynas rhwng y claf a’r Tîm Amlddisgyblaethol sy’n gofalu amdano, gyda chleifion yn blaenoriaethu ac yn cyd-gynhyrchu eu nodau adsefydlu eu hunain.
Tynnodd barn y Tîm Amlddisgyblaethol sylw at fanteision mynychu côr cleifion mewnol, drwy wella cyfathrebu, hyder a lles unigolyn a rhoi llais y claf wrth wraidd ei broses adsefydlu.
Ychwanegodd Esther: “Roedd hi’n wych gallu gwreiddio nodau therapi disgyblaethau eraill mewn sesiwn gôr.”
Erbyn hyn, mae Esther yn awyddus i sefydlu côr parhaol sy’n ystyriol o affasia ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i’w wneud yn wasanaeth therapi newydd sydd ar gael i bob claf ar ôl strôc.
I gael gwybod am y newyddion ymchwil diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol.