Cymrodoriaethau Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil (RCBC) Cymru
Mae RCBC Cymru’ n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’i nod ydy meithrin cymhwysedd a gallu ymchwil ymhlith nyrsys, bydwragedd, fferyllwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a chyfrannu at ddatblygu rolau academaidd clinigol.
Cylch gwaith
Mae’r RCBC yn cynnwys adrannau/ ysgolion nyrsys a gweithwyr perthynol i iechyd chwe phrifysgol yng Nghymru (sef prifysgolion De Cymru, Abertawe, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Glyndŵr a Bangor) ac mae’n ymgysylltu â’r GIG, y diwydiant, elusennau a llunwyr polisi.
Mae’r cydweithrediad yn gweithio i annog a datblygu’r rheini sy’n gwneud ymchwil am y tro cyntaf, gan helpu i wneud y llwybr i ddod yn ymchwilwyr annibynnol yn fwy deniadol a hygyrch. Mae’n cynnig amrywiaeth o ddyfarniadau, yn amrywio o gymrodoriaethau Newydd i Ymchwil, i ddoethuriaethau PhD, i gefnogaeth i’r rheini sydd eisiau gwneud astudiaethau ôl-ddoethurol.
Mae pawb y mae RCBC yn eu hariannu’n ymuno â’r Gymuned Ysgolheigion, sy’n cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn. Mae’n darparu mentoriaid a dosbarthiadau meistr mewn dulliau ymchwil ac arweinyddiaeth ymchwil, gan gynnwys ymgysylltu â pholisi a dylanwadu arno. Anogir yr 80 a mwy o gynfyfyrwyr RCBC i gadw mewn cysylltiad a rhwydweithio ag aelodau newydd.
Cymhwystra
Mae ymchwilwyr newydd a phrofiadol yng Nghymru sy’n cael eu cyflogi fel nyrsys, bydwragedd, fferyllwyr, gwyddonwyr clinigol a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn cael ymgeisio. Bydd cymhwystra ar gyfer y dyfarniad penodol ar gael pan fydd pob galwad yn cael ei lansio.
Y broses asesu ceisiadau
Bydd gwybodaeth am y broses asesu ar gael yn nogfennaeth yr alwad.
Sut i ymgeisio
Bydd gwybodaeth am sut i ymgeisio ar gael pan fydd yr alwad yn cael ei lansio.
Further information
Website: www.rcbcwales.org.uk
Twitter: @RCBCWales.
Email: marina.mcdonald@southwales.ac.uk
Tel: 01443 483070