Oes gennych chi brofiad neu wybodaeth am y maes hwn? Pleidleisiwch dros eich blaenoriaethau nawr
6 Ionawr
Pleidleisiwch dros eich blaenoriaethau nawr!
Rydym yn gweithio gyda swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg ar ein prosiect blaenoriaethu ymchwil diweddaraf.
Nod y prosiect yw ein helpu i nodi blaenoriaethau ymchwil i geisio gwella mynediad at ofal a chymorth cydgysylltiedig, a'r modd y maent yn cael eu darparu, i blant a phobl ifanc (11-25 oed) sydd â phrofiad o fod mewn gofal (naill ai mewn gofal, ar ffiniau gofal, neu yn gadael gofal) ac sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu.
Gwasanaethau sy'n darparu gofal a chymorth: gofal iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a sefydliadau'r trydydd sector.
Ar gyfer y prosiect hwn, rydym yn defnyddio'r term “plant a phobl ifanc ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu” i ddisgrifio'r rhai nad oes ganddynt ddiagnosis iechyd meddwl gan CAMHS/AMHS, ond sy'n ei chael hi'n anodd rheoli eu hymddygiad a'u hemosiynau yn llwyddiannus.
Gallai'r emosiynau a'r ymddygiadau hyn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): ymddygiadau trallodus, aflonyddgar, gwrthgymdeithasol ac anghydweithredol, a lefelau uchel o straen a gorbryder. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc sy'n aros am ddiagnosis iechyd meddwl gan CAMHS/AMHS a'r rhai sydd â diagnosis niwrowahanol, gan ein bod yn ymwybodol o'r gorgyffwrdd sydd rhwng y cyflyrau hyn pan nad yw anghenion emosiynol ac ymddygiadol yn cael eu diwallu.
Rydym am ofyn i weithwyr proffesiynol sy'n darparu gofal a chymorth mewn gofal iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, a sefydliadau'r trydydd sector, a'r plant a phobl ifanc eu hunain, i rannu eu safbwyntiau gyda ni ar:
- beth yw eu pryderon mwyaf o ran darpariaeth a mynediad at waith cydgysylltiedig
- a pha ymchwil neu dystiolaeth sydd ei hangen i helpu gwasanaethau i gysylltu â'i gilydd
Cefndir y Prosiect
Rydym wedi ymrwymo i ddull ataliol er mwyn gwella iechyd emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc yng Nghymru, er enghraifft, drwy ein Dull Ysgol Gyfan a'n fframwaith NYTH.
Gwyddom hefyd fod yr argyfwng costau byw a phandemig COVID-19 yn parhau i gael effaith ddofn ar iechyd meddwl a lles emosiynol y garfan hon o blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd am sicrhau bod cymorth ar gael pan fo angen, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed fel y rhai mewn gofal, a'r rhai sydd â chefndir teuluol cymhleth. Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod o wrando ar blant, pobl ifanc ac ymarferwyr bod angen gwella'r cymorth a ddarperir i bobl ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu nad oes ganddynt ddiagnosis o gyflwr iechyd meddwl, a'i gydlynu'n well.
Gall ymchwil ein helpu ni i wneud y newidiadau sydd eu hangen drwy lenwi bylchau yn ein gwybodaeth. Er mwyn cynnal ymchwil ddefnyddiol, mae'n rhaid i ni wrando arnoch chi, y plant a phobl ifanc a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes hwn, i nodi'r pryderon a'r syniadau pwysicaf sydd gennych.
Pam ddylwn i gymryd rhan?
Pan gynhelir ymchwil yn y dyfodol, rydym am iddi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru a gwella ansawdd y gofal a'r cymorth y maen nhw'n eu cael.
Bydd canlyniadau'r arolygon a'r grwpiau trafod yn cael eu defnyddio i nodi set o 10 Uchaf o flaenoriaethau ymchwil y byddwn yn eu hyrwyddo i gyllidwyr ymchwil. Bydd y canfyddiadau hefyd yn cael eu defnyddio i ddatblygu Strategaeth Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru a byddant yn cael eu rhannu â swyddogion polisi ar draws y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i lywio polisïau ar weithio integredig.
Cymerwch ran yn yr arolwg i bleidleisio dros eich blaenoriaethau nawr!
Beth rydyn ni'n ei ofyn ichi ei wneud?
Cymerodd dros 100 o ymarferwyr a phobl ifanc ledled Cymru ran yn ein harolwg cyntaf i rannu eu syniadau a'u profiadau. Mae'r rhain wedi cael eu dadansoddi a'u grwpio'n gwestiynau cryno.
Rydym am leihau'r rhestr o 28 o gwestiynau cryno, trwy gasglu eich pleidleisiau ar y cwestiynau rydych chi fwyaf awyddus i ymchwil fynd i'r afael â nhw yn yr ail arolwg hwn.
Gallwch bleidleisio hyd yn oed os na wnaethoch gymryd rhan yn ein harolwg cyntaf.
Gofynnwn ichi annog eich cysylltiadau i lenwi'r arolwg, a'i hyrwyddo i'ch cydweithwyr.
Dylai'r arolwg gael ei lenwi gan y rhai sydd â phrofiad (personol neu drwy waith) o wasanaethau sy'n darparu gofal a chymorth i blant a phobl ifanc 11-25 oed sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol heb eu diwallu.
Mae hyn yn cynnwys:
- plant a phobl ifanc (11-25 oed)
- eiriolwyr ar gyfer plant a phobl ifanc
- rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr
- gweithwyr rheng flaen a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau strategol yn unrhyw un o'r canlynol:
- Gwasanaethau statudol: byrddau iechyd, awdurdodau lleol (gwasanaethau cymdeithasol), addysg (ysgolion, addysg bellach, addysg uwch)
- Sefydliadau trydydd sector sy'n darparu gofal a chymorth
- Gwasanaethau ataliol (e.e. y rhwydwaith ehangach o allgymorth a chymorth)
Dylai'r arolwg gymryd tua 5 munud i chi, ond does dim ots os yw'n cymryd mwy o amser.
Agor: 12 Ionawr 2024
Dyddiad cau ar gyfer cwblhau: 10:00 12 Chwefror 2024
Mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn gwbl wirfoddol, a bydd eich atebion yn cael eu cadw'n gyfrinachol. Gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd.
Rydym yn hapus i dderbyn cyflwyniadau yn seiliedig ar drafodaethau grŵp am gwestiynau'r arolwg, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny nad ydynt yn gallu cwblhau arolwg ar-lein. Os gallwch gydweithio â ni a helpu i hyrwyddo'r arolwg mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â Josie Jackson.
Rydym yn cynnal trafodaethau ar y pwnc hwn gyda phlant a phobl ifanc i glywed eu llais a byddwn hefyd yn dadansoddi eu hymatebion o ymgynghoriadau perthnasol yn y gorffennol, yn hytrach na gwneud hyn drwy arolwg yn unig. Gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y grwpiau trafod.
Y Camau Nesaf
Byddwn yn cyfuno'r allbynnau o'r arolwg a'r trafodaethau gyda phlant a phobl ifanc i ganfod beth yw'r cwestiynau blaenoriaeth uchaf.
I ddewis y deg blaenoriaeth uchaf, byddwn yn cynnal gweithdy ar-lein gydag ymarferwyr, plant a phobl ifanc a'u heiriolwyr i drafod y cwestiynau mwyaf poblogaidd o'r ail arolwg.
Unwaith y bydd gennym ein Deg Uchaf byddwn yn cyflwyno'r rhain i ymchwilwyr a chyllidwyr ymchwil.
I gymryd rhan yn y gweithdy, mae cyfle ar ddiwedd yr arolwg i roi eich gwybodaeth gyswllt.
Cymerwch ran yn yr arolwg i bleidleisio dros eich blaenoriaethau nawr!