Lansiad drama boblogaidd newydd ar BBC One 'Men Up' yn amlygu sut y gwnaeth cyfranogwyr o Gymru lunio ymchwil a all achub bywydau
25 Ionawr
Gyda lansiad drama boblogaidd newydd BBC One 'Men Up', sy'n archwilio bywydau pum Cymro a oedd yn rhan o un o dreialon meddygol cyntaf y byd ar gyfer Viagra, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n goruchwylio'r holl ymchwil ledled y wlad, yn edrych ar y cyfraniad gwerthfawr a wneir gan gyfranogwyr eraill o Gymru - a sut mae eu mewnbwn wedi helpu i lunio triniaeth a gofal arloesol.
Yn y flwyddyn ar ôl i COVID-19 gael ei ddatgan yn bandemig, roedd Cymru yn rhan o 46 o astudiaethau ymchwil iechyd cyhoeddus brys, gan gynnwys treialon brechlynnau a oedd yn darparu llwybr allan hanfodol. Cafodd dros 36,000 o gyfranogwyr eu recriwtio i 114 o astudiaethau ymchwil COVID-19 dan oruchwyliaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Ers hynny, Canolfan Ganser De-orllewin Cymru yw'r cyntaf y tu allan i Loegr i gael ei dewis ar gyfer treial yn y DU sy'n edrych ar fanteision posibl therapi pelydrau proton ar gyfer rhai cleifion sydd â chanser y fron. Bydd y Treial PARABLE, lle mae 4 o gleifion o Gymru wedi cymryd rhan, yn profi manteision therapi pelydrau proton o'i gymharu â radiotherapi safonol ar gyfer cleifion canser y fron, sydd â mwy o risg o broblemau hirdymor ar y galon ar ôl radiotherapi. .
Enghraifft arall o sut mae Cymru wedi bod wrth wraidd ymchwil sy'n newid bywyd yw cyfranogiad 76 o ddynion a menywod o Gymru yn astudiaeth ELAN. Bu tîm ymchwil yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, dan arweiniad Dr Manju Krishnan, dirprwy arweinydd arbenigol ar gyfer strôc Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn helpu i lywio’r astudiaeth ryngwladol arwyddocaol hon a ganfu fod rhoi gwrthgeulyddion yngymedrol i gleifion yn fuan ar ôl strôc oherwydd ffibriliad atrïaidd yn ddiogel ac yn effeithiol, ni waeth a oedd y strôc yn ysgafn, yn gymedrol neu'n ddifrifol.
Roedd y tîm yn Ysbyty Treforys, a oedd ynghyd â chanolfan Gymreig arall, Ysbyty Glan Clwyd yn Y Rhyl, yn y pump uchaf allan o 103 o ganolfannau recriwtio ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia - gydag Abertawe yn recriwtio'r 500fed Cyfranogwr i'r treial.
Hefyd yn 2021, galwodd y rhoddwr cyntaf yng Nghymru, i roi plasma drwy broses ‘plasmafferesis’ newydd Gwasanaeth Gwaed Cymru, ar ddynion eraill sydd wedi gwella o COVID-19 i ystyried rhoi eu plasma i gefnogi treialon meddygol.
Dywedodd Andrew Thomas, heddwas ar ran Heddlu De Cymru, ar y pryd: "Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth a allai helpu rhywun arall i fynd drwy'r hyn a wnes i."
Mae astudiaeth sy'n recriwtio ar hyn o bryd o'r enw PANORAMIC, yn edrych ar effeithiolrwydd sut y gall tabledi gwrthfeirysol a gymerir gartref i'r rhai sydd mewn perygl difrifol o COVID-19 helpu i leihau difrifoldeb y feirws, cyflymu adferiad ac osgoi'r angen am driniaethau yn yr ysbyty.
Mae'r astudiaeth, a arweinir gan Brifysgol Rhydychen ac a gyflwynwyd yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Phrifysgol Caerdydd, wedi gweld bron i 1,800 o gyfranogwyr o Gymru yn cael eu recriwtio hyd yma, gyda Chanolfan Feddygol Clarence, meddygfa sydd wedi'i lleoli yn Y Rhyl, yn gwasanaethu fel safle hyb ar gyfer y treial cyfan yng Nghymru.
Dywedodd Dr Selena Harris o Ganolfan Feddygol Clarence: "Rydym yn falch o fod wedi bod yn un o’r recriwtwyr gorau mewn llawer o'r astudiaethau ymchwil yr ydym wedi cymryd rhan ynddynt, gan roi'r Rhyl ar y map ar gyfer ymchwil mewn gofal sylfaenol.
"Heb ein hymdrechion ni fyddai Cymru wedi cael ei chynnwys yn y treial hwn ledled y DU, rydym wedi rhoi cyfle cyfartal i'n cleifion yng Nghymru fel sydd yng ngweddill y DU."
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Dyma ond ychydig o enghreifftiau o sut mae cyfranogwyr Cymru wedi cyfrannu at driniaethau newydd ac arloesol sy'n gwella bywydau miloedd o bobl, sydd â'r cyflyrau mwyaf difrifol.
"Mae ‘Men Up’ yn dangos bod ymchwil yn cynnwys pobl go iawn, ac yn digwydd ar garreg ein drws, gan ddarparu gobaith i eraill sy'n ei chael hi'n anodd.
"Ond dim ond un enghraifft yw hon, ar hyn o bryd mae gennym dros 600 o astudiaethau ar agor yng Nghymru, o rai sy'n edrych ar gyffuriau canser a thriniaethau dialysis newydd i eraill sy'n archwilio ffyrdd o roi inswlin a ffyrdd newydd o drin poen y cymalau.
"Rydym am ddiolch i bob un person sydd wedi helpu i lunio ymchwil ac annog unrhyw un i ddarganfod sut y gallant helpu."
I ddod o hyd i astudiaethau ymchwil ar agor yn eich ardal, chwiliwch ar-lein: Bod yn rhan o ymchwil.