Annog nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ledled Cymru i gymryd rhan mewn datblygu cynllun gweithredu i gefnogi, darparu ac arwain ymchwil
22 Chwefror
Bydd y prosiect BLAENORIAETH, a gomisiynwyd gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru, Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Chyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn datblygu cynllun gweithredu i gynyddu capasiti a gallu o ran gwneud a defnyddio ymchwil yn y proffesiynau nyrsio, bydwreigiaeth a’r 13 o broffesiynau gofal iechyd cysylltiedig.
Mae ymarfer dan arweiniad ymchwil yn cael canlyniad cadarnhaol sylweddol i gleifion ac mae gwreiddio ymchwil ym mhob rhan o iechyd a gofal cymdeithasol yn elfen allweddol o Fframwaith Ymchwil a Datblygu GIG Cymru Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a gyhoeddwyd yn 2023.
Bydd cynllun gweithredu yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda'r proffesiynau, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, yn ogystal â phrifysgolion, a fydd yn cael cyfle i rannu'r capasiti presennol a mynd i'r afael â rhwystrau i ymgymryd ag ymchwil yn eu rolau ac yn y GIG a gofal cymdeithasol.
Bydd y cynllun yn defnyddio dull gweithlu a system gyfan i sicrhau bod nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gallu gweld, croesawu a gwerthfawrogi ymchwil, yn ogystal ag adeiladu llif o dalent ymchwil ar gyfer Cymru.
Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, yr Athro Sue Tranka: "Bydd y prosiect hwn yn grymuso ein gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth i ddefnyddio, arwain, cyflwyno a chymryd rhan mewn ymchwil fel rhan o'u rolau, a'u bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi wrth wneud hynny. Bydd hwn yn gynllun sy'n wahanol i unrhyw un arall gan fod angen iddo sicrhau bod ymchwil yn cael ei normaleiddio'n ymarferol ar bob lefel - dylai ymchwil fod i bawb fel y gellir gwireddu manteision i gleifion a'r cyhoedd."
Dywedodd y Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Ruth Crowder: "Mae cyflwyno cynllun gweithredu strategol integredig yn adlewyrchu polisi yng Nghymru ac yn gwerthfawrogi arloesedd ym mhob maes ymarfer. Bydd y prosiect yn integreiddio'r proffesiynau perthynol i iechyd ar ffurf nod ar y cyd - p'un a ydych chi'n fyfyriwr neu'n ymarferydd ymgynghorol neu a ydych chi'n ystyried ac yn defnyddio ymchwil fel rhan o ymarfer dyddiol neu'n datblygu fel ymchwilydd gyrfa. Bydd ymchwil yn cael ei ymgorffori yn arfer pob proffesiwn perthynol i iechyd a bydd yn sail i ansawdd y gofal i bawb."
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Rydym yn gwybod pan fydd sefydliadau'r GIG yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil, fod hynny’n arwain at well canlyniadau iechyd i gleifion a gweithlu mwy galluog ac ymgysylltiol. Mae angen i'n byrddau iechyd a'n hymddiriedolaethau weithio mewn partneriaeth agos â'n prifysgolion i feithrin capasiti a gallu ymchwil a chreu arweinwyr ymchwil y dyfodol. Mae'n bwysig iawn bod ymchwil yn rhan greiddiol o ddarparu gofal iechyd, ac nad yw'n cael ei ystyried yn ychwanegiad. Dylai pawb sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ddeall pa mor bwysig yw ymchwil. Dylai nyrsys, bydwragedd, a gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd allu dysgu a chymryd rhan mewn ymchwil gyda chydweithwyr academaidd a phartneriaid yn y diwydiant er budd ein poblogaeth a sbarduno gwelliannau i ddarparu gwasanaethau.
Mae'r 13 o Broffesiynau Perthynol i Iechyd yn cynnwys therapyddion celf, therapyddion drama, therapyddion cerdd, podiatryddion, dietegwyr, therapyddion galwedigaethol, orthoptyddion, prosthetyddion ac orthotyddion, parafeddygon, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith, a seicolegwyr. Mae pob proffesiwn wedi'i gofrestru a'i reoleiddio gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac yn gweithio ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol a gyda phobl o bob oed.