Yr Athro Kieran Walshe

Yr Athro Kieran Walshe

Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Kieran Walshe yw Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n Athro Polisi a Rheoli Iechyd yn Ysgol Fusnes Cynghrair Manceinion. Ef hefyd yw cyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Christie, cadeirydd bwrdd Ymchwil Gwasanaethau Iechyd y DU ac mae’n aelod o Fwrdd Cynghori Rhyngwladol US AcademyHealth. Bu’n aelod o banel REF2014 ar gyfer iechyd cyhoeddus, ymchwil gwasanaethau iechyd a gofal sylfaenol. Ef oedd cyfarwyddwr cyswllt rhaglen gwasanaethau iechyd a chyflawni ymchwil y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) rhwng 2012 a 2015, a bu’n cyfarwyddo’r rhaglen ymchwil cyflenwi a threfnu gwasanaethau NIHR rhwng 2008 a 2011. Bu’n golygu’r cyfnodolyn Health Services Management Research rhwng 2011 a 2015 a bu’n aelod o’r bwrdd ac yn gadeirydd pwyllgor gwyddonol y Gymdeithas Rheoli Iechyd Ewropeaidd rhwng 2008 a 2015. Rhwng 2003 a 2006 bu’n gyfarwyddwr ar y Ganolfan Polisi Cyhoeddus a Rheoli yn Ysgol Fusnes Manceinion, a rhwng 2009 a 2011 bu’n gyfarwyddwr ar Sefydliad Gwyddorau Iechyd y brifysgol.

Mae ganddo ddeg mlynedd ar hugain o brofiad ym maes ymchwil polisi iechyd, rheoli iechyd a gwasanaethau iechyd. Bu’n gweithio ym Mhrifysgol Birmingham, ym Mhrifysgol California yn Berkeley fel Cymrawd Harkness, ac yn y King's Fund yn Llundain, ac mae ganddo gefndir proffesiynol mewn rheoli gofal iechyd. Mae’n gweithio’n ar y rhyngwyneb rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer ac mae’n gwerthfawrogi’r cyfle a ddaw yn sgil hynny i ymgysylltu  â chymunedau polisi ac ymarferwyr a rhoi syniadau ar waith. Mae ganddo ddiddordeb ac arbenigedd penodol mewn ansawdd a pherfformiad sefydliadau gofal iechyd; llywodraethu, atebolrwydd a pherfformiad gwasanaethau cyhoeddus; a defnyddio tystiolaeth i werthuso polisïau a dysgu. Mae wedi arwain ystod eang o brosiectau ymchwil wedi’u hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Yr Adran Iechyd, NIHR, a rhaglenni EU FP7, ac adrannau eraill o’r llywodraeth a sefydliadau’r GIG. Bu’n cynghori llawer o asiantaethau a sefydliadau’r llywodraeth, yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys gweithredu fel cynghorydd ar ddiwygiadau iechyd i bwyllgor dethol Tŷ’r Cyffredin ar iechyd. Mae ei ymchwil presennol yn canolbwyntio’n bennaf ar ddiwygiadau i reoleiddio proffesiynau iechyd, defnyddio prosesau arolygu a sgorio wrth reoleiddio sefydliadau a gwasanaethau gofal iechyd; a galluoedd a phrosesau sefydliadau i wella.


Yn y newyddion:           

Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn diolch i gymuned ymchwil y GIG am eu hymroddiad a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud (Gorffennaf 2023)

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi Fframwaith newydd i wreiddio ac integreiddio ymchwil yn y GIG (Gorffennaf 2023)

Rhaglen waith gyntaf y Ganolfan Dystiolaeth yn ceisio helpu i fynd i'r afael â heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (Gorffennaf 2023)

Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn croesawu cytundeb cyllido ehangach SCYIaG i hybu ymchwil ar draws y DU (Gorffennaf 2023)

Cydweithio â Gofal Cymdeithasol Cymru yn dod ag ail sioe deithiol ymchwil gofal cymdeithasol i Gaerdydd (Mehefin 2023)

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn croesawu adroddiad newydd ar y sector treialon clinigol masnachol (Mai 2023)

Ymarferwyr gofal cymdeithasol yn ymgynnull yn Venue Cymru i drafod cefnogaeth i blant a theuluoedd (Mai 2023)

Hwb ariannol i bartneriaeth ymchwil iechyd mamau a babanod newydd (Mai 2023)

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn nodi ei uchelgeisiau mewn cynllun tair blynedd newydd (Ebrill 2023)

Astudiaeth newydd yn dangos potensial dysgu peirianyddol wrth nodi pobl ag arthritis llidiol yn gynnar (Ebrill 2023)

Effaith pandemig COVID-19 ar achosion o gyflyrau hirdymor yng Nghymru (Mawrth 2023)

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn helpu i lansio Canolfan Dystiolaeth newydd (Mawrth 2023)

Mae Canolfan Dystiolaeth Newydd gyda nod o wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (Chwefror 2023)

Llongyfarchiadau i’r Athro Ceri Battle (Ionawr 2023)

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu cyllid ar y cyd gwerth £2.1 miliwn ar gyfer triniaethau canser newydd (Ionawr 2023)

Yr Athro Kieran Walshe yn diolch i staff ymchwil am "waith caled a chyfraniadau gwerthfawr" yn 2022 (Rhagfyr 2022)

Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “un o’r mentrau pwysicaf y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi’i sefydlu” (Tachwedd 2022)

Penodi Cyfarwyddwr Cyfadran Newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Mai 2022)

Gweinidog yn ymweld â chanolfan ymchwil Cymru sy’n ymwneud ag ymchwil ryngwladol i sglerosis ymledol a diabetes (Mai 2022)

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn buddsoddi mewn arweinwyr ledled Cymru i lywio ymchwil y dyfodol (Ebrill 2022)

Blwyddyn o effaith - Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (Chwefrof 2022)

Adroddiad newydd yn amlinellu argymhellion i gefnogi a datblygu ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (Chwefrof 2022)

Diolch yn fawr gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Rhagfyr 2021)

“Mae Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech ymchwil ledled y DU ar gyflymder a graddfa na welwyd erioed o’r blaen” (Hydref 2021)

Tair gwobr yn dathlu ymchwil fydd yn newid bywydau yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021 (Hydref 2021)

Sêr ymchwil yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ymchwil ac Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Medi 2021)

Mae ymchwilwyr a chleifion o Gymru yn chwarae rhan allweddol wrth dreialu prawf gwaed aml-ganser chwyldroadol (Medi 2021)

Mae ymchwilwyr o Gymru yn ymchwilio i Covid hir fel rhan o alwad cyllido gwerth £20 miliwn ledled y DU (Gorffennaf 2021)

Digwyddiad yn cydnabod staff y GIG yng Nghymru a gynorthwyodd ac a gyflwynodd ymchwil yn ystod y pandemig ac yn edrych i'r dyfodol (Ebrill 2021)

Penblwydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn chwech oed: neges oddi wrth yr Athro Kieran Walshe (Mai 2021)

Mae mwy na 90% o bobl yng Nghymru yn credu bod ymchwil iechyd wedi bod yn bwysig yn ystod pandemig COVID-19 (Mai 2021)

ESRC a'r Sefydliad Iechyd yn sefydlu canolfan newydd gwerth £15 miliwn i ddefnyddio tystiolaeth i wella gofal cymdeithasol i oedolion yng Nghymru a gweddill y DU (Mawrth 2021)

Dros filiwn o gyfranogwyr yn rhan o ymchwil COVID-19 y DU erbyn hyn (Mawrth 2021)

Datganiad ar adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol (Chwefror 2021)

Penodi Cyfarwyddwr i Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd Cymru (Ionawr 2021)

Ymchwilwyr i ddatblygu prawf ar gyfer plant sydd fwyaf mewn perygl o fod yn fyr iawn eu golwg (Rhagfyr 2020)

Ymchwil yn rhoi cinio Nadolig yn anrheg i blant a'u teuluoedd (Rhagfyr 2020)

Caerdydd i gynnal y drydedd astudiaeth fawr i ddod o hyd i frechlyn COVID-19 (Tachwedd 2020)

Yng Nghymru mae ymchwil iechyd a gofal yn sicrhau manteision sylweddol i gleifion ac i’r cyhoedd yn ogystal ag i’r economi (Hydref 2020)

Wrecsam i gefnogi rhaglen dreialu y DU ar gyfer brechlyn COVID-19 (Hydref 2020)

Sut allwn ni sicrhau bod timau ambiwlans yn gwbl barod i ddelio ag achosion posibl o COVID-19? (Medi 2020)

Platfform cronfa ddata a thechnoleg goruwch Cymru’n chwarae rhan fawr mewn cydweithrediad ymchwil COVID-19 rhyngwladol newydd (Mehefin 2020)

Cymru’n chwarae rhan mewn astudiaeth geneteg arloesol yn y frwydr yn erbyn COVID-19 (Mai 2020)

Buddsoddi £44 miliwn ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (Mawrth 2020)

Yn gwneud gwahaniaeth trwy ymchwil; dewch i gyfarfod â’n Cyfarwyddwr newydd (Tachwedd 2019)

Sefydliad

Is-adran Ymchwil a Datblygu, Llywodraeth Cymru

Cysylltwch â Kieran

Twitter