QuicDNA yn ennill Gwobr Canser Moondance
22 Mehefin
Mae astudiaeth QuicDNA, sy’n cynnwys cyllid peilot gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy ddyfarniad Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd Cymru, wedi’i hanrhydeddu â’r wobr Gweithio gyda Diwydiant a’r Trydydd Sector yn y wobr Arloesi a Gwella yn ail Wobrau Canser Moondance.
Wedi'i ddatblygu gan Wasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan mewn cydweithrediad â llu o bartneriaid, mae'r astudiaeth yn defnyddio profion biopsi hylif ar amheuaeth o ganser yr ysgyfaint i gyflymu mynediad at driniaethau wedi'u targedu.
Mae Gwobrau Canser Moondance, yr unig wobrau Canser penodol yng Nghymru, yn dathlu ac yn amlygu unigolion a thimau ledled GIG Cymru a'i bartneriaid sy'n darparu, arwain ac arloesi gwasanaethau canser.
Eleni, dyfarnwyd tri unigolyn ac wyth tîm ar draws 10 categori gwahanol am eu gwaith a'u hymroddiad tuag at wella gwasanaethau canser yng Nghymru.
Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a'r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.