tîm ymchwil yn Ysbyty Treforys ar gyfer treial VAPOR

Bae Abertawe yn arwain treial prawf anadl cyntaf y byd ar gyfer canfod canser pancreatig cynnar

22 Gorffennaf

Mae treial prawf anadl arloesol ar y gweill, sydd â'r nod o ganfod canser y pancreas yn gynnar, dan arweiniad timau ymchwil a datblygu Bae Abertawe, ac a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae'r treial arloesol hwn, a elwir yn VAPOR yn cael ei arwain gan yr Athro George Hanna yng Ngholeg Ymerodrol Llundain ac mae'n cael ei gynnal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yr unig ganolfan Gymreig sy'n cymryd rhan.

Bydd y treial yn archwilio a all samplau anadl a gymerir mewn meddygfeydd hwyluso diagnosis a thriniaeth canser y pancreas, sy'n aml yn ymddangos heb symptomau penodol.

Cafodd un cyfranogwr, Kay Jelley o Gastell-nedd, ddiagnosis o ganser y pancreas terfynol fis Hydref diwethaf.  Dywedodd Kay, "Dydw i ddim yn gwybod pa mor hir sydd gen i, ond gobeithiaf y bydd y prawf hwn yn gweithio ac yn helpu eraill yn y dyfodol."

Yr Athro Bilal Al-Sarireh, arbenigwr llawfeddygaeth pancreatig a llawfeddyg cyffredinol ymgynghorol Ysbyty Treforys, yw'r prif ymchwilydd lleol, gan weithio ochr yn ochr â Gemma Smith, y nyrs ymchwil arweiniol ar gyfer astudiaeth VAPOR ym Mae Abertawe. 

Pwysleisiodd Gemma natur anfewnwthiol y prawf.  Dywedodd hi:  "Rydym yn sgrinio cleifion sydd ag adenocarcinoma dwythell pancreatig wedi'i gadarnhau. Y cyfan sy'n rhaid i chi wneud yw chwythu i mewn i fag."

Tynnodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sylw at botensial y treial i drawsnewid diagnosis cynnar o ganser y pancreas, sydd fel arfer yn cael ei ddiagnosio'n rhy hwyr i gael triniaeth effeithiol.

Dywedodd, "Rwy'n cael fy nghyffroi'n arbennig gan gyfranogiad Kay yn nhreialon VAPOR. Mae hi'n ysbrydoliaeth ac yn atgof pwerus o'r rôl hanfodol sydd gan gyfranogwyr treialon mewn ymchwil."

Mae gan ganser y pancreas, sy'n effeithio ar bobl 50 i 80 oed yn bennaf, gyfradd goroesi isel oherwydd ei fod yn cael ei ganfod yn hwyr.  Mae VAPOR, sydd wedi'i ariannu gan Pancreatic Cancer UK, yn rhan o ymchwil ehangach i benderfynu a all profion anadl ganfod gwahanol ganserau.

Hyd yma, mae 10 claf wedi cymryd rhan, gyda'r nod o gyrraedd 30 erbyn diwedd yr astudiaeth yn ddiweddarach eleni.

Darganfyddwch fwy am y treial.

research team at Morriston Hospital for VAPOR trial
Y tîm prawf yn Ysbyty Treforys