Public Contributor Rachel and Dr Catherine Purcell

Y gwahaniaeth y gall bod â chyfrannwr cyhoeddus ei wneud i gais am gyllid

6 Awst

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu gwasanaeth unigryw sy'n cysylltu ymchwilwyr â phobl sydd â phrofiadau bywyd go iawn sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau. Mae Rachel Hazlewood yn berson awtistig sy'n defnyddio ei phrofiad bywyd i helpu i lunio ymchwil. O ganlyniad, mae hi wedi dod yn gyfrannwr cyhoeddus ar brosiect ymchwil sy'n edrych ar anghenion gofal cymdeithasol oedolion niwrowahanol.

Ar ôl datblygu Enseffalomyelitis Myalgig (ME) 15 mlynedd yn ôl, gwelodd Rachel, sy’n 54 ac o Gaerdydd, cyn lleied o ddealltwriaeth oedd yna ynghylch y cyflwr ac roedd hi eisiau helpu i newid hynny.

"Sylweddolais y gallai rhannu fy mhrofiadau helpu ymchwilwyr i ddeall ME yn well," meddai Rachel.

Un prosiect y gwnaeth Rachel helpu ei lunio oedd un gydag Adran Awdioleg Prifysgol Abertawe, sef astudio gweithrediad y clyw a’r ymennydd mewn oedolion hŷn. Roedd ei mewnwelediadau yn helpu ymchwilwyr i ddeall gwahaniaethau synhwyraidd mewn pobl awtistig yn well. Dywedodd Rachel:

"Roedd yr holl broses yn ddiddorol a dysgais lawer am fy sgiliau clyw a gwybyddol fy hun."

Prosiect arwyddocaol arall y cyfrannodd Rachel ato oedd creu teclyn newydd ar gyfer mesur symptomau cyffredin ME.

"Rwy'n falch fy mod wedi chwarae rhan yn y gwaith o ddatblygu'r adnodd hwn, sydd bellach yn cael ei dreialu gan y Gymdeithas ME."

Bu Rachel yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau ymchwil drwy amrywiol sefydliadau a phrifysgolion cyn iddi ddarganfod Cymuned Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n cysylltu pobl â phrofiadau bywyd ag ymchwilwyr sy'n gweithio ar brosiectau mewn meysydd amrywiol o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Rachel yn cael bwletin e-bost rheolaidd  gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy'n rhoi trosolwg byr o gyfleoedd i helpu i lunio prosiectau ymchwil sydd ar gael.

Mae ei chyfraniadau hefyd wedi cael effaith fawr ar ymchwilwyr. Amlygodd Dr Catherine Purcell, Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd, sut y bu cyfraniad Rachel yn helpu ei phrosiect ar anghenion gofal cymdeithasol oedolion niwrowahanol i symud i ail gam cyllido. Mae hyn yn dangos sut y gall cyfranwyr o blith y cyhoedd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ymchwil.

"Roedd cyfranwyr cyhoeddus, fel Rachel, yn rhoi mewnwelediadau efallai na fydden ni wedi eu hystyried. Roedd eu mewnbwn yn gwneud ein cais ymchwil yn fwy perthnasol a chynhwysol i bobl awtistig."

"Er enghraifft, sicrhau bod y cynnyrch ar ddiwedd yr ymchwil ar gael ar ffurf copi caled yn ogystal ag yn electronig i sicrhau hygyrchedd," meddai Dr Purcell.

Ychwanegodd Rachel:

“Mae ymchwilwyr yn aros i glywed eich stori. Gall rhannu'r hyn rydych chi'n ei wybod wneud gwahaniaeth go iawn i'w prosiectau ymchwil a'u helpu i sicrhau cyllid."

Mae cyllidwyr yn chwilio fwyfwy am brosiectau ymchwil sy'n ystyried llais y cyhoedd, gan wneud yr ymchwil yn fwy perthnasol ac effeithiol. Mae cyfranwyr cyhoeddus nid yn unig yn helpu i lunio'r cais ar gyfer prosiectau ymchwil ond hefyd yn sicrhau bod astudiaethau'n parchu ac yn diwallu anghenion y cyfranogwyr, yn darparu mewnwelediadau i wella sut mae ymchwil yn cael ei gyflawni, yn awgrymu ffyrdd ymarferol o ddefnyddio'r canfyddiadau fel bod pawb yn elwa a hyd yn oed yn helpu i ddewis pa brosiectau sy'n cael eu hariannu os ydyn nhw'n aelod o'r panel cyllido.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu llwyfan i ymchwilwyr fel Catherine a phobl fel Rachel gysylltu a dod â'u harbenigedd at ei gilydd. I ddysgu mwy am sut y gallwn gefnogi eich ymchwil, ewch i'n gwefan i gysylltu â'r tîm.