Ymchwilwyr o Gymru yn darganfod cysylltiad rhwng cleifion ag asthma wedi'i ddatrys a heintiau'r llwybr anadlol
5 Medi
Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys Cymru (Canolfan PRIME Cymru), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi darganfod bod cleifion gofal sylfaenol, sydd â hanes o asthma wedi'i ddatrys, yn wynebu risg uwch o heintiau'r llwybr anadlol a defnydd gwrthfiotig, o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol.
Mae'r astudiaeth yn cael ei harwain gan Dr Harry Ahmed, aelod Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Dr Rebecca Cannings-John, ill dau yn cyd-arwain ymchwil PRIME mewn heintiau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Dywedodd Dr Ahmed nad oes canllawiau ar hyn o bryd ar gyfer asesu neu adolygu'n rheolaidd pobl y bernir eu bod wedi datrys asthma, ac ychydig sy'n hysbys am eu risg barhaus o ddigwyddiadau anadlol andwyol.
Ychwanegodd: "Deilliodd y prosiect o ymholiad gan glaf a oedd wedi dioddef o asthma ers ei blentyndod. Dros amser, gwellodd eu cyflwr i'r pwynt lle nad oedd angen meddyginiaeth arnynt fwyach a gallai gymryd rhan mewn ymarfer corff a gweithgareddau eraill heb unrhyw broblem.
"Fodd bynnag, sylwon nhw eu bod yn profi heintiau anadlol yn aml. Ar ôl rhai blynyddoedd, gofynnwyd am brofion swyddogaeth yr ysgyfaint a chawsant wybod bod ganddynt asthma eto, a wnaeth eu hannog i ailgychwyn triniaeth.
"Unwaith roedd triniaeth wedi bod ar waith ers rhai misoedd, fe wnaethon nhw sylwi bod yr heintiau anadlol wedi dod i ben."
Mae asthma yn gyflwr anadlol cronig sy'n effeithio ar oddeutu 339 miliwn o bobl ledled y byd. Mewn cyfran o bobl, bydd symptomau asthma yn datrys ac ni fydd y cleifion hyn yn cael yr un sylw dilynol ag a gawsant tra bod angen y feddyginiaeth asthma arnynt.
Defnyddiodd y tîm ddata gan gleifion sydd wedi cofrestru gyda meddygon teulu ledled Lloegr i edrych a yw unigolion y mae eu hasthma wedi datrys yn parhau i wynebu risg o heintiau anadlol.
Canfu'r tîm fod cleifion sydd ag asthma sydd wedi'u datrys wedi cael llawer mwy o ymweliadau ymarfer cyffredinol ar gyfer heintiau anadlol, ac wedi derbyn mwy o bresgripsiynau gwrthfiotig o'i gymharu â'r rhai heb hanes o asthma.
Fodd bynnag, roedd cyfraddau heintiau anadlol difrifol oedd angen eu derbyn i'r ysbyty yn debyg rhwng y rhai oedd ag asthma wedi'i ddatrys.
Dywedodd Dr Ahmed: "Ein casgliad cyffredinol oedd y gallai fod angen i ni gynnal asesiad anadlol mwy cynhwysfawr os bydd claf, sydd ag asthma wedi'i ddatrys, yn cyflwyno symptomau haint anadlol, er mwyn gwerthuso baich symptomau, rhwystr i’r llwybr anadlu a’r budd posibl o ailgychwyn anadlwyr."
Cofrestrwch i'r bwletin wythnosol am y newyddion ymchwil diweddaraf yng Nghymru.