Ymchwilwyr o Gymru yn cymryd rhan mewn ymchwil sy'n arwain y byd ar gynhyrchion mislif hunan-lanhau yng nghefn gwlad Nepal
21 Medi
Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymchwil Treialon a Chanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys Cymru (Canolfan PRIME Cymru), a ariennir ill dau gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn arwain astudiaeth ryngwladol yn Nepal gyda'r nod o ddatblygu cynhyrchion mislif hunan-lanhau i leihau stigma mislif a gwella iechyd menywod.
Nod y tîm, sy'n cynnwys ymchwilwyr o Ysgolion Cemeg, Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd, Meddygaeth a phencampwyr cymunedol yn Nepal, yw deall yn well anghenion defnyddwyr cynhyrchion mislif mewn gwledydd incwm isel a chanolig, lle mae mynediad at gynhyrchion mislif untro yn gostus ac yn gyfyngedig.
Mae'r padiau misglif wedi'u cynllunio i ladd hyd at 99.999% o facteria pan fyddant yn agored i olau'r haul gan ddefnyddio catalyddion metel nad ydynt yn wenwynig, sy'n harneisio ynni'r haul i ladd bacteria, cael gwared ar staeniau a niwtraleiddio arogleuon. Er mwyn glanhau a diheintio, dim ond â dŵr y mae angen ei rinsio ac yna ei adael yn yr haul am 15 munud.
Bydd yr ymchwilwyr yn cymharu eu padiau prototeip â phadiau golchadwy y gellir eu hailddefnyddio sydd eisoes yn cael eu defnyddio ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Dr Jennifer Edwards, Prif Ymchwilydd o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: "Dros gyfnod dwys o ddwy flynedd o ymchwil a datblygu, rydym wedi ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae'r ffabrig yn gweithio yn ein labordai. Nawr, mae'n bryd mynd â'r cynnyrch i gymunedau'r byd go iawn, lle mae ganddo'r potensial i leihau'r risg o heintiau'r llwybrau atgenhedlu ac wrinol."
Ychwanegodd Rebecca Milton, Rheolwr Cyswllt Ymchwil / Treial yn y Ganolfan Ymchwil Treialon: "Yn ddiweddar, mae aelodau tîm SunPad Nepali wedi gwneud gwaith datblygu ac ymgysylltu cyn astudio, mewn cymunedau gwledig a threfol yn Nepal.
"Mae’r cyfarfyddiadau byr hyn â menywod Nepali wedi dod ag effaith arferion hylendid mislif ar fywydau beunyddiol menywod a’u teuluoedd yn fyw ac wedi amlygu dylanwad traddodiadau, crefydd, addysg a statws economaidd-gymdeithasol ar y dewisiadau sydd gan fenywod mewn perthynas â’u hiechyd mislif.
"Mae'r gwaith ymgysylltu cyhoeddus cyn astudio hwn wedi ein helpu i wella a ffurfio cam nesaf yr ymchwil sydd i fod i ddechrau yn ystod yr wythnosau nesaf."
Dywedodd Dr Rebecca Cannings-John, cyd-arweinydd ar gyfer heintiau ac ymchwil ymwrthedd gwrthficrobaidd yn PRIME: "Rydym wrth ein bodd yn cefnogi gwerthuso'r ymchwil sy'n arwain y byd ac rydym yn gobeithio y bydd yn gwella mynediad at gynhyrchion mislif diogel a fforddiadwy i'r rhai sydd eu hangen."
Yn ystod y 18 mis nesaf, bydd y tîm yn canolbwyntio ar ddichonoldeb a threialon maes bach y cynnyrch yn Nepal.
Darganfyddwch fwy am yr astudiaeth.
Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a'r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.