Canolfan Treialon Ymchwil logo

Canolfan Treialon Ymchwil

Canolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd yw’r grŵp mwyaf o staff treialon clinigol academaidd yng Nghymru – gyda dros 161 o staff, ac mae’n ehangu. Rydym yn mynd i'r afael â chlefydau a phryderon iechyd mawr ein hoes, gan gynnwys ymwrthedd cynyddol i wrthfiotigau, diagnosis o ganser cynnar a sut i ddileu anghydraddoldebau iechyd.

Rydym yn cyflawni hyn drwy ffurfio partneriaethau strategol gydag ymchwilwyr profiadol a newydd fel ei gilydd, a thrwy adeiladu cysylltiadau parhaus gyda'r cyhoedd, y mae eu cyfranogiad yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ein hastudiaethau.

Mae ein portffolio gwaith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau cohort a pholisi hysbysu ac ymarfer.

Ein nod yw gwella iechyd a llesiant cymdeithas drwy ragoriaeth gydnabyddedig mewn treialon clinigol ac astudiaethau eraill wedi’u cynllunio’n dda. Mae’r Ganolfan Treialon Ymchwil yn fodlon ystyried unrhyw astudiaeth wedi ei chynllunio’n dda neu syniad ar gyfer treial, hyd yn oed y rhai hynny y tu allan i’n meysydd ymchwil presennol.

Dyma’r adroddiad blynyddol diweddaraf gan gynnwys fideo am sut y gallwn helpu Prif Ymchwilwyr i sicrhau bod eu hastudiaeth yn llwyddiant drwy oresgyn y cymhlethdodau cyfreithiol ac ymdopi â’r holl fiwrocratiaeth i ddarparu treial o ansawdd uchel yn effeithlon ac yn effeithiol:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/centre-for-trials-research/about-us