Faculty members

Cynlluniau Doethuriaeth ac Uwch Gymrodoriaeth Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Ar agor nawr

22 Hydref

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn falch o gyhoeddi bod yr alwad am geisiadau i'r Cynlluniau Doethuriaeth ac Uwch Gymrodoriaeth bellach ar agor.

Mae'r cymrodoriaethau'n cynnig hyd at dair blynedd o gyllid llawn amser (neu bedair neu bum mlynedd yn rhan-amser ar gyfer y Ddoethuriaeth, neu bedair, pum neu chwe blynedd yn rhan-amser ar gyfer y rhai Uwch).

Gwahoddir ceisiadau gan y rhai sy'n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth sy'n ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol i ymgymryd ag ymchwil a fydd o fudd i'r cyhoedd, ymarfer neu bolisi'r gwasanaeth iechyd, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr neu wasanaethau gofal cymdeithasol a chymorth yng Nghymru.

Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o ymrwymiad clir i yrfa ymchwil a dangos sut y bydd y dyfarniad yn cefnogi eu potensial i fod yn ymchwilydd annibynnol.

Mae'r cynllun Cymrodoriaeth yn cynnig cyfleoedd ariannu ar draws ystod eang o bynciau iechyd a gofal cymdeithasol. Er bod pob cais sy'n bodloni telerau'r alwad yn gymwys, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn rhoi pwyslais ar bolisi, ymarfer ac angen y cyhoedd. Bydd angen i bob ymgeisydd gyflwyno achos cryf dros angen a phwysigrwydd eu cynnig ymchwil.

Bydd hyn yn cynnwys:  

  • disgrifiad clir o'r angen iechyd neu ofal y maent yn mynd i'r afael ag ef;  
  • gosod yr ymchwil a gynigir yn y cyd-destun polisi neu ymarfer priodol; 
  • cyfiawnhad o bwysigrwydd yr angen hwnnw, o ran maint y broblem a/neu effaith debygol ar y rhai sydd â'r angen o’r iechyd neu ofal;  
  • prawf bod bwlch yn y dystiolaeth ymchwil
  • dangos bod y dulliau a gynigir yn addas ar gyfer ateb y cwestiwn ymchwil.

Ceisiadau yn agor: Dydd Iau 17 Hydref 2024

Cau: 16:00, Dydd Mercher 15 Ionawr 2025.

Mae mwy o wybodaeth ar dudalen we y cynlluniau ariannu. 

Cymorthfeydd Dyfarniadau'r Gymrodoriaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Dyfarniad Doethuriaeth neu Uwch Gymrodoriaeth, gofynnwch i'r tîm yn un o'r cymorthfeydd:

  • Dydd Lau 7 Tachwedd 14:00 – 15:00
  • Dydd Mercher 27 Tachwedd 14:00 – 15:00

I archebu eich lle mewn meddygfa cwblhewch y ffurflen gofrestru