Icon of money

Cynlluniau ariannu

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n rhedeg nifer o gynlluniau ariannu amrywiol eu bwriad, i:

  • ariannu ymchwil o ansawdd uchel sy’n darparu tystiolaeth gadarn ar gyfer datblygu polisi ac arfer iechyd a gofal cymdeithasol;
  • ariannu ymchwil o ansawdd uchel sy’n amlwg o fudd i’r cyhoedd;
  • cefnogi meithrin cymhwysedd a gallu mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, er enghraifft trwy helpu unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol ac ariannu unigolion dawnus i wneud ymchwil sy’n arwain at PhD.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd yn gweithio gyda phartneriaid ariannu’r DU i greu cyfleoedd ariannu ychwanegol ar gyfer ymchwilwyr sy’n gweithio yng Nghymru.

Gallwch chi ddysgu mwy am bob cynllun isod.