Presenter at PPI event.

Rhowch eich barn ar ein cynllun gweithredu Darganfod Eich Rôl 2.0 ar gyfer cynnwys y cyhoedd yn y dyfodol

21 Hydref

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi rhyddhau cynllun gweithredu drafft yn amlinellu'r camau allweddol i wella cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil fel rhan o'n Darganfod Eich Rôl 2.0.

Nod y cynllun, a luniwyd drwy weithdai cydweithredol gydag aelodau'r gymuned, yw mynd i'r afael â rhwystrau i gynnwys y cyhoedd a chreu amgylchedd ymchwil mwy cynhwysol a hygyrch.

Mae'r cynllun gweithredu drafft yn amlinellu cyfres o weithgareddau a mentrau sydd â'r nod o gynnwys y cyhoedd yn weithredol, cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd ymchwil a gwella cyfathrebu rhwng ymchwilwyr a'r cyhoedd.

Hoffem i chi, aelodau'r cyhoedd yn ogystal ag ymchwilwyr ac academyddion, roi adborth ar y ddogfen hon cyn i ni gwblhau'r cynllun. Bydd eich mewnbwn yn helpu i sicrhau bod nodau'r cynllun yn glir, bod y pryderon cywir yn cael sylw ac yn gwella ei effeithiolrwydd cyffredinol.

Gweld y cynllun

Llenwch y ffurflen heddiw

Dywedodd Peter Gee, Uwch Reolwr Cynnwys y Cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

"Rydyn ni’n credu bod cynnwys y cyhoedd yn hanfodol ar gyfer cynnal ymchwil berthnasol ac effeithiol.

"Trwy gydweithio â'r gymuned, gallwn nodi a goresgyn heriau a allai fod yn atal pobl rhag cymryd rhan mewn ymchwil."

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni neu edrychwch ar ein dogfen i ddysgu mwy.

Dyddiad cau i roi eich syniadau: 13 Ionawr 2025