woman_posing_with_bag_against_green_backdrop

"Nid yw'r hyn rwy'n mynd drwyddo yn normal": yr astudiaeth sy'n rhoi llais i bobl sydd â Phoen Mislif Difrifol

21 Hydref

Mae ymchwilwyr sy'n ymchwilio i boen mislif difrifol yn gwahodd cyfranogwyr newydd i ymuno â'u hastudiaeth.

Mae astudiaeth SPPINN (Severe Period Pain Is Not Normal), sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ymgysylltu â phobl iau, yn ogystal â rhieni, athrawon, nyrsys ysgol, fferyllwyr cymunedol, ac aelodau o'r gymuned LGBTQ+.

Eu nod yw archwilio effaith ac ymwybyddiaeth o boen mislif difrifol ar draws gwahanol gymunedau a grwpiau oedran.

Mae un cyfranogwr, Emily Handstock, 25 oed, o Aberdâr, wedi brwydro â phoen mislif difrifol ers ei harddegau.

Dywedodd Emily:  "Nid yw'r hyn rwy'n mynd drwyddo yn normal, ond mae'n cael ei normaleiddio.  Trwy gydol fy arddegau dywedwyd wrthyf 'Rwyt ti ond yn profi mislif poenus. Mae popeth yn iawn. Cymera ychydig o Ibuprofen a charia ‘mlaen â phethau."

"Dwi wedi cael fy nerbyn i'r ysbyty, dwi wedi cael morffin a phrin mae hynny wedi cyffwrdd â’r poen."

Parhaodd, gan nodi:  "Dwi ddim yn meddwl bod yna ddigon o ymwybyddiaeth."

Mae Poen Mislif Difrifol (PMD) yn ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio, symud a chysgu, yn ôl y GIG, a gall olygu colli'r ysgol neu'r gwaith a methu â chymdeithasu.

Mae'n cael ei brofi gan hyd at 29% o ferched, menywod, a phobl a neilltuwyd yn fenyw adeg geni, yn ôl erthygl a gyhoeddwyd yn ‘BMC Women’s Health’

Mae Emily yn cymryd rhan yn yr astudiaeth Nid yw Poen Mislif Difrifol yn Normal a dderbyniodd fwy na £269,000 mewn cyllid dyfarniad prosiect Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cael ei harwain gan yr Athro Jacky Boivin a Dr Robyn Jackowich o Brifysgol Caerdydd.

Dywedodd Dr Jackowich:  "Nod astudiaeth Nid yw Poen Mislif Difrifol yn Normal (neu SPPINN) yw deall a gwella sut mae poen mislif difrifol yn cael ei nodi a'i reoli ar draws y cwrs bywyd atgenhedlu, ac ar draws Cymru.

"Byddwn yn gwneud cyfuniad o gyfweliadau yn ogystal ag edrych ar ddata gofal iechyd a data addysg ledled Cymru fel y gall y wybodaeth hon gyda'n gilydd helpu i greu argymhellion ar gyfer yr hyn sydd angen digwydd nesaf er mwyn gwella addysg a gofal am boen mislif difrifol."

"Gall Cymru wir fod yn arweinydd"

Mae'r astudiaeth bellach yn ei hail gam, gydag ymchwilwyr yn cyfweld â hyd at 75 o bobl, gan gynnwys pobl rhwng 13 a 51 oed sydd â PMD, eu teulu a'u gofalwyr, darparwyr gofal iechyd ac addysgwyr.

Yn ei chyfweliad, disgrifiodd Emily ei phrofiadau o'r adeg y cafodd ei mislif am y tro cyntaf hyd at heddiw, gan drafod y boen a'i effaith o ddydd i ddydd.

Awgrymodd mai cam pwysig yw gwella addysg ar boen mislif a dywedodd:  "Dydw i ddim yn adnabod unrhyw un o fy ffrindiau sydd wedi cael mislif arferol ystrydebol. Mae mor hen ffasiwn."

Gellid gwella trafodaethau gyda chleifion am driniaeth hefyd gydag esboniadau cliriach.  Parhaodd Emily: “Rydw i wedi yn profi pobl sydd ond yn ceisio fy ngwthio i fod ar y bilsen. Doeddwn i ddim am dderbyn hynny."

Gall pils atal cenhedlu helpu gyda rheoli poen ac ychwanegodd Emily:  "Rwy'n credu pe bai hynny wedi cael ei esbonio i mi, byddwn wedi bod yn fwy agored i'w cymryd."

Mae cyd-ymchwilwyr yr astudiaeth yn cynnwys eiriolwyr iechyd menywod, Triniaeth Deg i Ferched Cymru.

Arweiniodd adroddiad 2017 Triniaeth Deg i Ferched Cymru, 'Gwneud yr Achos dros Wella Triniaeth Endometriosis yng Nghymru', at grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru a chyflwyniad dilynol nyrsys endometriosis arbenigol Cymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad parhaus i Iechyd Menywod - gan gynhyrchu'r Cynllun Gweithredu Urddas Mislif yn 2021, y Datganiad Ansawdd ar gyfer iechyd Menywod a Merched ym mis Gorffennaf 2022 a thrwy ddatblygiad parhaus y Cynllun Iechyd Menywod, sydd â’r nod o wella gwasanaethau iechyd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cynhenid - gyda mwy o ymchwil yn chwarae rhan allweddol.

Ar ôl ei chwblhau, bydd yr astudiaeth SPPINN yn cynhyrchu argymhellion i wella addysg a gofal ynghylch y cyflwr.  Er enghraifft, gallai arwain at fodiwlau newydd ar gyfer athrawon neu ddarparwyr gofal iechyd neu dynnu sylw at bwysigrwydd triniaeth wedi'i theilwra.

Dywedodd Dr Jackowich:  "Rwy'n credu ei fod yn gyfnod cyffrous a phwysig iawn yn ymchwil Iechyd Menywod yng Nghymru.  Mae llawer o ymwybyddiaeth gynyddol, gan dynnu sylw at y bwlch hwn a'r angen i fynd i'r afael ag ef.  Rwy'n credu gall Cymru wir fod yn arweinydd yn y maes hwn."

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:  "Byddai dealltwriaeth gliriach o sut mae poen mislif difrifol yn cael ei nodi a'i reoli yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ledled Cymru sy'n byw gyda'r cyflwr, ac edrychwn ymlaen at ddilyn cynnydd yr astudiaeth hon ac olrhain ei photensial i wella'r llwybrau triniaeth a'r addysg yn y maes hwn."

I ddysgu mwy am yr astudiaeth hon neu i gymryd rhan a rhannu eich barn, gallwch gofrestru ar gyfer cylchlythyr chwarterol yr astudiaeth  neu gysylltu â'r tîm trwy'r cyfryngau cymdeithasol.