Dr Thomas Purchase
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Rhaglen Cymrodoriaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (2024 - 2028)
Teitl y prosiect: IncorporAting parental health aDVOcaCy when mAnaging unwell Children in primarY care (ADVOCACY): a multi-methods systems approach to co-develop a complex intervention
Bywgraffiad
Mae Dr Tom Purchase yn Ymarferydd Cyffredinol ac yn Gymrawd Doethurol NIHR Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Tom yn gweithio gyda’r tîm Diogelwch Cleifion yn yr Is-adran Meddygaeth Boblogaeth lle mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar archwilio data ar ddiogelwch cleifion i gynhyrchu argymhellion i wella diogelwch gofal iechyd i grwpiau agored i niwed.
Mae gan Tom ddiddordeb mewn cymhwyso meddwl drwy systemau ac egwyddorion Ffactorau Dynol ac Ergonomeg at ymchwil ar ddiogelwch cleifion i ddeall cymhlethdod systemau ym maes gofal iechyd.
Nod cymrodoriaeth bresennol Tom yw deall sut a ble mae eiriolaeth rhieni yn digwydd o fewn systemau gofal iechyd. Bydd y prosiect yn archwilio sut y gall rhieni sy’n siarad dros eu plentyn gael eu cefnogi a’u cynnwys yn well wrth reoli plant sy’n sâl mewn gofal sylfaenol. Bydd hyn yn helpu i lywio datblygiad ymyrraeth ar y cyd i helpu rhieni a staff gofal iechyd i weithio gyda’i gilydd i leihau niwed sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.
Darllen mwy am Tom a’u gwaith:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau cyllid i ymchwilwyr