Researcher funding awards

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau cyllid i ymchwilwyr

22 Hydref

Heddiw (1 Hydref 2024), mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyhoeddi pwy sydd wedi cael y dyfarniadau cyllid diweddaraf.

Mae’r cyllid wedi cael ei ddyfarnu i ymchwilwyr nid yn unig am eu prosiectau unigol ond hefyd i helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd fel ymchwilwyr ar draws amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys therapi trawma, iechyd meddwl mewn plant a’r glasoed, gofal sylfaenol i blant sâl, gwerthuso ansawdd ymarfer gwaith cymdeithasol, a sgrinio serfigol i fenywod sydd wedi profi camdriniaeth a thrais rhywiol, ymhlith eraill.

Bydd saith prosiect yn cael cyllid o dan y Cynllun Cyllid Integredig: Cangen 1 a Changen 2. Hefyd, mae 14 o ymchwilwyr unigol wedi cael cyllid drwy Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru o dan Ddyfarniad Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd NIHR/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dyfarniad Cymrodoriaeth Ddoethur Ymchwil Iechyd NIHR/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil.

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Ymchwil: “Rydym yn hapus iawn gyda safon uchel y ceisiadau ar gyfer grantiau prosiect eleni. Mae gan y prosiectau ymchwil amrywiol hyn y potensial i gael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl. Bydd ansawdd ymchwil yng Nghymru yn helpu i sicrhau bod ein cymuned ymchwil yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn parhau i ffynnu.”

Ychwanegodd yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Ar ran y Gyfadran, mae’n bleser gennyf longyfarch y grŵp talentog hwn y rhoddwyd y dyfarniadau iddynt. Rydym wedi ymrwymo i gynnig cymorth cynhwysfawr i ymchwilwyr o bob cefndir ac ar bob cam er mwyn iddyn nhw allu gwneud cynnydd ystyrlon wrth ddatblygu eu gyrfaoedd ymchwil yn eu meysydd dewisol.”

Isod ceir rhestr lawn o’r dyfarniadau cyllid a’r rhai sydd wedi’u derbyn:

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Prosiectau y Rhoddwyd Dyfarniadau Iddynt

Cynllun Cyllid Integredig - Cangen 1: Ymchwil Trosi a Chlinigol

Dr William Pickrell - Prifysgol Abertawe

Trawiadau Gweithredol/Datgysylltiol yng Nghymru      

Dyddiad Dechrau: 1 Hydref 2024 (£243,980)

 

Dr Catrin Lewis - Prifysgol Caerdydd

Hap-dreial rheoledig o ddichonoldeb Spring PGD, rhaglen hunangymorth wedi’i chyfeirio’n ddigidol ar gyfer anhwylder galar estynedig (PGD)     

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£267,884)

 

Cynllun Cyllid Integredig - Cangen 2: Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd

Dr Sarah Wallace - Prifysgol De Cymru

Mae gwrando yn gam mawr: Cyd-ddatblygu fframwaith amlasiantaeth gyda menywod o gefndiroedd Du ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£329,726)

 

Yr Athro Ceri Battle - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Astudiaeth dulliau cymysg i ddatblygu a threialu Dull Asesu Cymhwysedd i gefnogi therapyddion i ofalu am gleifion sydd wedi cael trawma di-fin i’r frest: Astudiaeth CATCh

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£185,219)

 

Dr Phillip Smith - Prifysgol Caerdydd

Archwilio rôl cynghorwyr personol yng Nghymru: Astudiaeth a gyd-gynhyrchwyd gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£314,999)

 

Dr Benjamin Gray - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Lleihau niwed sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau ymhlith pobl yn y carchar ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau: Astudiaeth ansoddol

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£256,840.40)

 

Dr Dorothya Cserzo - Prifysgol Caerdydd

Sut mae pobl ifanc, rhieni a gweithwyr cymdeithasol yn asesu ansawdd ymarfer gwaith cymdeithasol? Dadansoddiad barn gymharol o waith uniongyrchol gyda theuluoedd

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£283,101)

 

Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Unigolion y Rhoddwyd Dyfarniadau Iddynt

Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd NIHR/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Yr Athro Rhiannon Owen - Prifysgol Abertawe

Ailfeddwl polisi iechyd o ran amlforbidrwydd (REMIT): dull sy’n seiliedig ar y boblogaeth

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£643,885)

 

Dr Ceryl Davies - Prifysgol Bangor

Mesur effaith gwella’r ddarpariaeth gofal sgrinio serfigol i fenywod yng Nghymru, Lloegr ac Awstralia sydd wedi profi camdriniaeth a thrais rhywiol

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£538,117)

 

Dyfarniad Cymrodoriaeth Ddoethur Ymchwil Iechyd NIHR/Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Dr Thomas Purchase - Prifysgol Caerdydd

Ymgorffori eiriolaeth iechyd rhieni wrth reoli plant sâl mewn gofal sylfaenol (ADVOCACY): systemau aml-ddull o gyd-ddatblygu ymyrraeth gymhleth

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£525,594)

 

Dyfarniad Cymrodoriaeth Uwch Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Dr Arthur Morris - Prifysgol Caerdydd

Defnyddio Genomeg Fodern ar gyfer Gwyliadwriaeth Fanwl o Gryptosporidiwm o ran Iechyd y Cyhoedd

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£398,334)

 

Dr Martin Scurr - Prifysgol Caerdydd

Asesiad imiwnolegol uwch o effeithlonrwydd y brechlyn ffliw mewn cleifion sydd â system imiwnedd wannach

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£548,312)

 

Dr Kai Thomas - Prifysgol Caerdydd

Gwella ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chymorth ar gyfer oedolion niwroamrywiol ac oedolion amrywiol o ran rhywedd sydd ag anhwylderau bwyta yng Nghymru

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£446,416)

 

Dr Amy Joanne Lynham - Prifysgol Caerdydd

Asesiad Gwybyddol Ar-lein Caerdydd (CONCA): Dull ar-lein o fonitro gwybyddiaeth mewn cleifion sydd â seicosis

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£489,116)

 

Stephen McKenna Lawson - Prifysgol Caerdydd

Astudiaeth CAMHbulance*: Sut mae’r gwasanaeth iechyd argyfwng mwyaf yng Nghymru y tu allan i ysbytai yn derbyn argyfyngau iechyd meddwl mewn pobl ifanc, yn ymateb iddynt ac yn eu datrys? *CAMH = Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£215,497)

 

Dyfarniad Hyfforddiant Ymchwil

Katie Jane Gilmour - Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Ymchwil Iechyd MRes - Prifysgol Stirling

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£16,726)

 

Hayley O'Brien - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Ymchwil Glinigol Clin Res (Dysgu rhan-amser o bell) – Prifysgol Manceinion

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£25,008.50)

 

Bethan Phillips - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Treialon Clinigol (Dysgu Ar-lein) – Prifysgol Caeredin

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£30,279.39)

 

Rebekah Da Silva Teixeira - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

MSc mewn Dulliau Ymchwil Gymdeithasol (Seicoleg) - Prifysgol Caerdydd

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£17,134.40)

 

Ellen Turrell - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gradd Meistr mewn Ymchwil Glinigol (MClin Res) - Prifysgol Manceinion

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024 (£21,395.47)

 

Emily Bratherton - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

MRes Ymchwil Clinigol ac Iechyd - Prifysgol Southampton

Dyddiad dechrau: 1 Hydref (£16,390.84)