Stephen McKenna Lawson

Stephen McKenna Lawson

Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Gwobr: Dyfarniad Cymrodoriaeth Ddoethur Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (2024 - 2027)

Teitl y prosiect: The CAMHbulance* Study: How does the largest out-of-hospital emergency health service in Wales receive, respond and resolve mental health crises in young people? *CAMH = Child and Adolescent Mental Health


Bywgraffiad

Mae Stephen yn nyrs iechyd meddwl gofrestredig ac mae ganddo brofiad clinigol ym meysydd gofal dwys seiciatrig i ddynion, menywod a phobl ifanc a gwasanaethau cleifion mewnol arbenigol i blant dan 12 oed. Mae’n ystyried ei hun yn nyrs Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn gyntaf oll.

Mae wedi dysgu mewn dau Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru, mae’n aelod o Grŵp Cynghori Uwch-nyrsys Cymru Gyfan a, rhwng Hydref 2023 a Medi 2024, cafodd secondiad rhan-amser i Swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio.

Cyn ei ddoethuriaeth, cyflwynodd waith damcaniaethol gwreiddiol mewn nifer o gynadleddau yn ymwneud ag ymchwil nyrsio iechyd meddwl, cyhoeddodd mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ar feysydd penodol ac, yn fwyaf ystyrlon iddo ef, cyfrannodd waith unigol ac ar y cyd ar gyfer cylchgrawn Asylum.

Cyn iddo hyfforddi i fod yn nyrs, fe weithiodd mewn rolau cymorth cleifion ar gyfer gwasanaethau nyrsio yn yr Ysbyty Cenedlaethol ar gyfer Niwroleg, cyflawnodd fodiwl cyflwyniad i arweinyddiaeth Coleg Staff y GIG a chwblhaodd astudiaeth ôl-raddedig mewn Diwylliant a Meddwl Ewropeaidd yng Ngholeg Prifysgol Llundain.


Darllen mwy am Stephen a’u gwaith:

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi’r rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau cyllid i ymchwilwyr

 

Sefydliad

Doctoral Fellow at Cardiff University

Cyswllt Stephen

E-bost

LinkedIn