Adolygiad gan Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn tynnu sylw at y ffactorau sy’n gysylltiedig â gordewdra ymhlith plant
23 Tachwedd
Mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mewn cydweithrediad â Technoleg Iechyd Cymru, wedi cynnal adolygiad o ymchwil i’r rhesymau pam y gall plant pum mlwydd oed ac iau fynd yn ordew neu dros bwysau.
Mae gordewdra ymhlith plant yn broblem gynyddol yng Nghymru, gyda thros chwarter plant pedwar i bum mlwydd oed yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew. Yn 2023, roedd bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru dros bwysau neu’n ordew erbyn iddynt ddechrau ysgol gynradd.
Gall plant sydd dros bwysau neu’n ordew brofi problemau iechyd yn ystod plentyndod neu laslencyndod. Maent hefyd yn fwy tebygol o fod dros bwysau neu’n ordew pan fyddant yn oedolion, a all achosi problemau iechyd cysylltiedig hefyd. Fodd bynnag, gall amrywiaeth eang o ffactorau cymhleth ddylanwadu ar ordewdra ymhlith plant, o fioleg i’r amgylchedd.
Nod yr adolygiad cyflym oedd dwyn ynghyd dystiolaeth i nodi ffactorau sy’n effeithio ar ordewdra ymhlith plant a pha mor ddylanwadol ydynt.
Caiff y gwaith ei ddefnyddio fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru, er mwyn helpu i lywio strategaeth a chynlluniau cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach.
Canfu’r adolygiad dystiolaeth sicrwydd uchel bod y ffactorau canlynol yn helpu plant i fod â phwysau iachach:
- Helpu menywod sydd dros bwysau, ond sy’n ystyried mynd yn feichiog neu sy’n ceisio mynd yn feichiog, i golli pwysau
- Lleihau magu pwysau’n gyflym yn ystod y 12 mis cyntaf o fywyd
- Rhoi cyfleoedd i blant rhieni sy’n gweithio fwyta bwydydd iachach a bod yn fwy actif yn gorfforol.
Canfuwyd tystiolaeth gymedrol hefyd ynghylch y ffactorau canlynol:
- Hyrwyddo bwydo ar y fron
- Lleihau magu pwysau’n gyflym yn ystod y 13 mis cyntaf o fywyd
- Monitro cyfradd twf plant yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o fywyd
- Hyrwyddo diddyfnu a arweinir gan y babi
- Yfed llai o ddiodydd llawn siwgr
- Addysgu a chefnogi’r rhai sy’n rhoi gofal i ddarparu bwydydd iachach a chyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol.
Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Mae timau ymchwil Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwella polisi a darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Tîm Iechyd y Cyhoedd ac Anghydraddoldebau Llywodraeth Cymru ofynnodd i’r gwaith hwn gael ei wneud, fel rhan o’r gwaith ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, er mwyn helpu i lywio strategaeth a chynlluniau cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach.”
Dywedodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr, Technoleg Iechyd Cymru: “Rydym yn falch o fod wedi cymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn sy’n rhoi mewnwelediad gwerthfawr i’r ffactorau sy’n gysylltiedig â gordewdra ymhlith plant o dan bum mlwydd oed. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio fel un o Bartneriaid Cydweithredol Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n anelu at sicrhau bod polisïau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf sydd ar gael.”