Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Mae Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy'n adeiladu ar etifeddiaeth Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, yn gweithio gyda nifer o sefydliadau penodol ledled Cymru i ddatblygu tystiolaeth ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gadarn ar ystod o bynciau, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
- Nodi bylchau mewn gwybodaeth sy’n ymwneud â pholisi ac arfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
- Ateb cwestiynau ymchwil sy'n mynd i'r afael â'r bylchau gwybodaeth yn gyflym a chyda methodoleg gadarn
- Sefydlu rhwydwaith rhwng y Ganolfan a pholisi ac arfer sefydliadau allweddol megis Llywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a’r GIG
- Gweithio’n agos gyda’r cyhoedd yng Nghymru a gwneud yn siŵr eu bod yn rhan o’n holl waith
- Adolygu tystiolaeth ymchwil sydd ar gael lle bo modd
- Cynnal ymchwil newydd lle mae diffyg tystiolaeth
Cymuned ymchwil
Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru - Yr Athro Adrian Edwards
Yn y newyddion
Mae Canolfan Dystiolaeth Newydd gyda nod o wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru