Ydych chi'n ymchwilydd sydd â diddordeb mewn gweithio gyda chartrefi gofal?
Hoffech chi weithio'n fwy effeithiol gyda staff a phreswylwyr cartrefi gofal wrth gynnal eich ymchwil? Hoffech chi wybod beth fyddai'n helpu cartrefi gofal i gymryd rhan mewn ymchwil? Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyfle i chi gyd-ddatblygu adnodd i ymchwilwyr sy’n awyddus i weithio gyda chartrefi gofal ac adnodd ar gyfer rheolwyr cartrefi gofal sydd â diddordeb mewn ymchwil.
Bydd Dr Laura Brown (Prifysgol Manceinion) yn cyflwyno rhai o'i chanfyddiadau ymchwil a ddefnyddir i gyd-ddatblygu'r adnoddau.
Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal gan ENRICH os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm y digwyddiad.
-
AWEN Café Lab, Swansea University
Am-Ddim