Arweinydd Prosiect Patholeg a Ariennir gan y Cynllun Gwirfoddol ar Gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi'u Brandio (VPAG)
Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyfle cyffrous ar gyfer Arweinydd Prosiect Patholeg i gefnogi goruchwylio'r grŵp gorchwyl a gorffen patholeg a ariennir gan y Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau wedi'u Brandio (VPAG). Bydd y grŵp yn archwilio sut y gall VPAG fynd i'r afael â'r cyfyngiadau yn y maes arbenigol hwn orau.
Dylai ymgeiswyr fod yn batholegydd neu'n gweithio mewn uwch swydd reoli neu weithrediadau mewn gwasanaeth patholeg, gyda phrofiad o gefnogi cyflawni treialon masnachol. Dylai fod ganddynt hygrededd personol a phrofiad yn y maes patholeg i'w galluogi i gyflawni'r holl dasgau a chyfrifoldebau a amlinellir.
Cyfrifoldebau allweddol
- Mireinio'r cwmpas a'r ddogfen cychwyn prosiect gysylltiedig ar gyfer y grŵp gorchwyl a gorffen a chael cymeradwyaeth gan Fwrdd Cyflawni Ymchwil Glinigol Cymru (CRDW).
- Ymgymryd â gwaith manwl i bennu cwmpasu yr heriau mewn gwasanaethau patholeg ar gyfer gweithgareddau ymchwil a datblygu masnachol yng Nghymru.
- Gwneud argymhellion ar sut y gellid defnyddio arian sefydlu VPAG i oresgyn yr heriau.
- Ystyried a gwneud argymhellion ar unrhyw atebion 'Cymru'n Un' a'r ffordd orau o ddarparu gwelliannau pellgyrhaeddol ledled Cymru i sicrhau mynediad teg i bob Bwrdd Iechyd.
- Ymgynghori â rhanddeiliaid priodol o bob rhan o GIG Cymru ac yn ehangach i drafod argymhellion ar gyfer gwella mewn perthynas â chwmpas y prosiect hwn, asesu effaith ac amlygu rhwystrau posibl.
- Ystyried y rôl sydd gan wasanaethau patholeg preifat a gwasanaethau patholeg y GIG, er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus ynghylch pa argymhellion y dylid eu gweithredu a darparu cyfiawnhad i Fwrdd CRDW.
- Dyfeisio cynllun gweithredu ar gyfer gwelliannau i wasanaethau patholeg ar gyfer ymchwil a datblygu masnachol yng Nghymru, gyda cherrig milltir allweddol a dangosyddion perfformiad.
- Bod ar gael i roi cyngor arbenigol ac i ddatrys problemau yn ystod y cyfnod gweithredu.
Sut i fynegi diddordeb
I fynegi diddordeb, llenwch y ffurflen gais isod. Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno drwy e-bost i HCRW.ResearchHubAdmin@wales.nhs.uk.
Ar gyfer ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflawni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.