Plentyn yn defnyddio ffôn symudol

Ymdrechion ar y cyd sy'n hanfodol er mwyn amddiffyn plant rhag cam-fanteisio troseddol

21 Tachwedd

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan bartneriaeth Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn tanlinellu pwysigrwydd dull amlasiantaethol cydgysylltiedig o fynd i’r afael yn effeithiol â Llinellau Sirol.

Mae'r astudiaeth, dan arweiniad Dr Nina Maxwell, Cyd-Arweinydd Arbenigedd ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn pwysleisio bod cydweithio rhwng ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, darparwyr gofal iechyd a gwasanaethau gorfodi'r gyfraith yn hanfodol ar gyfer nodi a diogelu unigolion agored i niwed sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio gan rwydweithiau troseddol.

Mae’r bygythiad parhaus a achosir gan gangiau cyffuriau Llinellau Sirol, sy’n cludo cyffuriau anghyfreithlon o ganolfannau trefol i drefi llai ac ardaloedd gwledig, wedi dod yn fater dybryd mewn cymunedau ledled y DU gan gynnwys gorllewin Cymru.

Mae grwpiau troseddol trefniadol yn manteisio ar unigolion agored i niwed, yn enwedig plant a'r rhai sy'n wynebu heriau iechyd meddwl neu ddibyniaeth, i gyflawni'r gweithrediadau hyn.

Yn ôl yr astudiaeth, un o'r heriau allweddol yw tactegau esblygol grwpiau troseddol trefniadol, sydd wedi dod yn fwyfwy soffistigedig yn eu dulliau. Mae gangiau troseddol bellach yn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram a Snapchat i feithrin perthynas amhriodol a recriwtio pobl ifanc, gan ei gwneud hi'n anoddach i awdurdodau ganfod eu gweithgareddau.

Dywedodd Dr Maxwell:  "Mae gwefan Diogelu Cymhleth Cymru, a gyd-gynhyrchwyd gan bobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol, yn gwasanaethu fel adnodd pwysig yn yr ymdrech hon.

"Mae'n cynnig gwybodaeth werthfawr i rieni ac aelodau'r gymuned ar sut i adnabod arwyddion cam-fanteisio troseddol plant ac yn rhoi arweiniad ar beth i'w wneud os bydd plentyn yn mynd ar goll neu'n cael ei arestio."

Ychwanegodd:  "Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau fel Gweithredu dros Blant i ddarparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant y mae cam-fanteisio troseddol yn effeithio arnynt. 

"Nod yr hyfforddiant hwn yw arfogi addysgwyr, gweithwyr cymdeithasol a darparwyr gofal iechyd gyda'r offer sydd eu hangen arnynt i gefnogi ieuenctid sydd mewn perygl ac ymyrryd cyn iddynt gael eu tynnu i mewn i weithgaredd troseddol."

I gloi, dywedodd Dr Maxwell: "Mae'r ymchwil hon wedi paratoi'r ffordd ar gyfer astudiaeth newydd, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a fydd yn edrych yn ddyfnach ar lwybrau atgyfeirio a chanlyniadau gwasanaeth i blant sydd wedi cael eu cam-fanteisio’n droseddol."

Cofrestrwch i'n cylchlythyr wythnosol a chadwch i fyny â'r newyddion ymchwil a'r cyfleoedd ariannu diweddaraf, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.