Lleihau niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau ymhlith pobl yn y carchar ac ar ôl eu rhyddhau: Astudiaeth ansoddol

Pwrpas y cyllid:

Nod yr ymchwil hon yw edrych ar sut mae ymddygiad sylweddau pobl sy'n defnyddio sylweddau yn newid pan fyddant yn mynd i mewn i'r carchar, yn ystod eu dedfrydau ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.  Gall y newidiadau mewn ymddygiad gynnwys defnyddio sylweddau gwahanol yn y carchar, defnyddio gwahanol symiau neu ddefnyddio sylweddau mewn gwahanol ffyrdd. 

Yr amcan allweddol yw cael gwybodaeth a all achub bywydau a lleihau niwed oherwydd defnyddio sylweddau.  Mae hwn yn bwnc pwysig i'w archwilio am nifer o resymau.  Yng Nghymru, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ar y lefel uchaf y buont erioed.  Rydym hefyd yn gwybod bod y gyfradd marwolaethau mewn carchardai oherwydd defnyddio sylweddau bron ddwywaith y niferoedd o fewn y boblogaeth yn gyffredinol. Mae pobl sy'n gadael y carchar hefyd mewn perygl uchel iawn o farw oherwydd y defnydd o sylweddau am hyd at flwyddyn ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, mae'r risg hon hyd at 16 gwaith yn uwch na'r boblogaeth gyffredinol.

Mae ymchwil i helpu i atal neu ostwng nifer y marwolaethau a lleihau niwed sy'n gysylltiedig â sylweddau ymhlith y bobl hynny sydd yn y carchar, neu sydd wedi bod yn y carchar yn ddiweddar, yn faes iechyd cyhoeddus pwysig.

Drwy gyfweld â phobl sydd â hanes o ddefnyddio sylweddau pan maent yn y carchar, rydym yn gobeithio deall y rhesymau pam fod pobl yn marw neu'n cael eu niweidio yn y carchar drwy faterion sy'n gysylltiedig â sylweddau, ac wrth gael eu rhyddhau, a dod o hyd i ffyrdd o atal hyn rhag digwydd. Bydd y cyfweliadau yn dweud wrthym nifer o bethau, gan gynnwys: nodweddion demograffig gymdeithasol pobl sy'n defnyddio sylweddau yn y carchar, pa sylweddau y maent yn dewis eu defnyddio a pham, a pha arferion lleihau niwed, os o gwbl, y maent yn eu defnyddio.  Bydd y cyfweliadau'n archwilio newidiadau dros amser ac yn ystyried yr ymddygiadau camddefnyddio sylweddau a lleihau niwed cyn, yn ystod ac ar ôl cyfnod diweddar o garcharu.  Er y bydd y cyfweliadau'n canolbwyntio'n bennaf ar brofiadau personol, byddwn hefyd yn gofyn i gyfwelwyr roi sylwadau mwy eang ar gyd-destun cymdeithasol defnyddio sylweddau a disgrifio digwyddiadau y maent wedi'u gweld.  Bydd hyn yn ein helpu i gasglu gwybodaeth am ddigwyddiadau lle mae pobl wedi marw yn y carchar neu pan fyddant yn cael eu rhyddhau. 

Rydym wedi canfasio barn rhywun sydd â phrofiad byw o ddefnyddio sylweddau yn y carchar yn ogystal â rhywun sy'n gweithio i helpu i gefnogi pobl sydd â phroblemau defnyddio sylweddau o fewn amgylchedd y carchar. Rydym wedi costio'u rhan yn y prosiect a byddwn yn defnyddio eu harbenigedd i sicrhau ein bod yn gofyn y cwestiynau cywir, i'r bobl gywir, yn y ffordd gywir, a'n bod yn dehongli'r atebion yn gywir ac yn lledaenu canfyddiadau'n briodol.

Bydd canfyddiadau allweddol yn cael eu cyfleu'n ôl i'n poblogaeth darged, y bobl sy'n defnyddio cyffuriau yn y carchar, mewn fformat hawdd ei ddeall (e.e. trwy ffeithluniau a phodlediadau).  Byddwn hefyd yn rhannu ein canfyddiadau gyda'r gymuned academaidd trwy adroddiadau, erthyglau cyfnodolion a phapurau cynadleddau.

Gweithredol
Research lead
Dr Benjamin Gray
Swm
£258,840.40
Statws
Yn weithredol
Dyddiad cychwyn
1 Hydref 2024
Dyddiad cau
30 Medi 2026
Gwobr
Cynllun Ariannu Integredig - Cangen 2: Ymchwil Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd
Cyfeirnod y Prosiect
01-HS-00036