Lleihau niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau ymhlith pobl yn y carchar ac ar ôl eu rhyddhau: Astudiaeth ansoddol
Pwrpas y cyllid:
Nod yr ymchwil hon yw edrych ar sut mae ymddygiad sylweddau pobl sy'n defnyddio sylweddau yn newid pan fyddant yn mynd i mewn i'r carchar, yn ystod eu dedfrydau ac ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Gall y newidiadau mewn ymddygiad gynnwys defnyddio sylweddau gwahanol yn y carchar, defnyddio gwahanol symiau neu ddefnyddio sylweddau mewn gwahanol ffyrdd.
Yr amcan allweddol yw cael gwybodaeth a all achub bywydau a lleihau niwed oherwydd defnyddio sylweddau. Mae hwn yn bwnc pwysig i'w archwilio am nifer o resymau. Yng Nghymru, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ar y lefel uchaf y buont erioed. Rydym hefyd yn gwybod bod y gyfradd marwolaethau mewn carchardai oherwydd defnyddio sylweddau bron ddwywaith y niferoedd o fewn y boblogaeth yn gyffredinol. Mae pobl sy'n gadael y carchar hefyd mewn perygl uchel iawn o farw oherwydd y defnydd o sylweddau am hyd at flwyddyn ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, mae'r risg hon hyd at 16 gwaith yn uwch na'r boblogaeth gyffredinol.
Mae ymchwil i helpu i atal neu ostwng nifer y marwolaethau a lleihau niwed sy'n gysylltiedig â sylweddau ymhlith y bobl hynny sydd yn y carchar, neu sydd wedi bod yn y carchar yn ddiweddar, yn faes iechyd cyhoeddus pwysig.
Drwy gyfweld â phobl sydd â hanes o ddefnyddio sylweddau pan maent yn y carchar, rydym yn gobeithio deall y rhesymau pam fod pobl yn marw neu'n cael eu niweidio yn y carchar drwy faterion sy'n gysylltiedig â sylweddau, ac wrth gael eu rhyddhau, a dod o hyd i ffyrdd o atal hyn rhag digwydd. Bydd y cyfweliadau yn dweud wrthym nifer o bethau, gan gynnwys: nodweddion demograffig gymdeithasol pobl sy'n defnyddio sylweddau yn y carchar, pa sylweddau y maent yn dewis eu defnyddio a pham, a pha arferion lleihau niwed, os o gwbl, y maent yn eu defnyddio. Bydd y cyfweliadau'n archwilio newidiadau dros amser ac yn ystyried yr ymddygiadau camddefnyddio sylweddau a lleihau niwed cyn, yn ystod ac ar ôl cyfnod diweddar o garcharu. Er y bydd y cyfweliadau'n canolbwyntio'n bennaf ar brofiadau personol, byddwn hefyd yn gofyn i gyfwelwyr roi sylwadau mwy eang ar gyd-destun cymdeithasol defnyddio sylweddau a disgrifio digwyddiadau y maent wedi'u gweld. Bydd hyn yn ein helpu i gasglu gwybodaeth am ddigwyddiadau lle mae pobl wedi marw yn y carchar neu pan fyddant yn cael eu rhyddhau.
Rydym wedi canfasio barn rhywun sydd â phrofiad byw o ddefnyddio sylweddau yn y carchar yn ogystal â rhywun sy'n gweithio i helpu i gefnogi pobl sydd â phroblemau defnyddio sylweddau o fewn amgylchedd y carchar. Rydym wedi costio'u rhan yn y prosiect a byddwn yn defnyddio eu harbenigedd i sicrhau ein bod yn gofyn y cwestiynau cywir, i'r bobl gywir, yn y ffordd gywir, a'n bod yn dehongli'r atebion yn gywir ac yn lledaenu canfyddiadau'n briodol.
Bydd canfyddiadau allweddol yn cael eu cyfleu'n ôl i'n poblogaeth darged, y bobl sy'n defnyddio cyffuriau yn y carchar, mewn fformat hawdd ei ddeall (e.e. trwy ffeithluniau a phodlediadau). Byddwn hefyd yn rhannu ein canfyddiadau gyda'r gymuned academaidd trwy adroddiadau, erthyglau cyfnodolion a phapurau cynadleddau.