Mother and baby

Archwilio rhwystrau i fwydo ar y fron mewn cymunedau Sipsiwn a Theithwyr

22 Rhagfyr

Mae ymwelydd iechyd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg sy’n ymchwilio am y tro cyntaf wedi nodi rhai o’r rhwystrau sy’n atal menywod Sipsiwn a Theithwyr rhag bwydo ar y fron.

Ledled y DU, mae tua 80% o famau yn dechrau bwydo ar y fron, o’i gymharu â 63% yng Nghymru, ond dim ond 3% o famau Sipsiwn a Theithwyr.

Mae’r Ymwelydd Iechyd Sarah Parry wedi gweithio gyda mamau a babanod yn y gymuned Sipsiwn a Theithwyr am bron i 15 mlynedd. Dim ond un babi o 28 a anwyd yn ystod y cyfnod hwnnw a gafodd unrhyw laeth y fron. Meddai Sarah,

Roedd ddiddordeb mawr gennyf i yn y rhesymau dros hynny ac a allai fod unrhyw beth y gallai gweithwyr iechyd proffesiynol ei wneud i gefnogi mwy o famau yn y cymunedau hyn i ddechrau bwydo ar y fron."

Yn rhan o’r prosiect ymchwil, gwnaeth Sarah gynnal nifer o gyfweliadau gyda mamau Sipsiwn a Theithwyr, gan drafod eu teimladau a’u pryderon ynghylch bwydo ar y fron. Dechreuodd nifer o themâu cyffredin ddod i’r amlwg, yn enwedig y canfyddiad bod fwydo ar y fron yn "anweddus".

"Dywedodd llawer o’r menywod wrthyf ei fod yn gywilyddus ac nad oedd yn rhywbeth y dylai gael ei wneud o flaen pobl eraill. Yn y cymunedau clos yma, roedd ofn y byddai gofyn iddyn nhw eistedd ar wahân i eraill wrth fwydo ar y fron, neu fod plant eraill yn cael eu symud oddi wrthyn nhw, yn enwedig bechgyn."

Arweiniodd y canfyddiad hwn at nifer o rwystrau eraill, fel diffyg sgiliau bwydo ar y fron a diffyg ymwybyddiaeth o’r manteision iechyd posibl i’w babanod. Gallai hyn gael ei ddwysáu gan weithwyr iechyd proffesiynol, a oedd yn tybio bod yn well gan famau o’r cefndiroedd hyn fwydo gyda fformiwla, ac felly nid ydynt yn trafod bwydo ar y fron gyda nhw.

Fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod awydd i newid yr agweddau hyn.

"Roedd fy ymchwil hefyd yn archwilio camau i hwyluso bwydo ar y fron. Er enghraifft, roedd y mamau y gwnes i siarad â nhw yn llawn cymhelliant o ran iechyd a lles eu plant, felly gallai mwy o bwyslais ar fanteision iechyd bwydo ar y fron wneud gwahaniaeth. Roedd llawer ohonyn nhw’n credu bod yr agwedd hon yn hen ffasiwn ac y dylai newid, ac roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn tynnu llaeth y fron, yn enwedig os oes modd gwneud hyn mewn ffordd ddisylw. Er enghraifft, roedd un fam wedi defnyddio pwmp y fron yr oedd yn bosibl ei guddio yn ei bra."

Mae Sarah yn gobeithio y gallai gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau a’r camau hwyluso hyn alluogi gweithwyr iechyd proffesiynol i ddatblygu menter hyrwyddo bwydo ar y fron sy’n targedu mamau yn y cymunedau hyn, gan ddefnyddio menywod Sipsiwn a Theithwyr eu hunain fel esiampl. Gallai ei hymchwil hefyd effeithio ar bolisi: gallai safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gael eu dylunio gyda mannau yn bwydo ar y fron yn breifat, neu byddai modd darparu cyfleoedd i fanteisio ar bympiau’r fron.

"Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o gwblhau ymchwil ac mae wedi cael effaith ddofn arnaf i. Erbyn hyn, rwy’n cydnabod y rhwystrau a’r camau hwyluso bwydo ar y fron a’r rheswm dros gyfraddau isel o fwydo ar y fron yn y cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Rwy’n cydnabod y dewrder yr oedd ei angen ar bob menyw i drafod pwnc yr oedden nhw’n poeni amdano. Ers cwblhau’r astudiaeth, mae menywod eraill wedi gofyn a gawn nhw gymryd rhan, felly efallai y bydd yn agor y drysau ar gyfer mwy o ymchwil yn y dyfodol."

Sut i gysylltu â Thîm Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
Mae Swyddfa Ymchwil a Datblygu Cwm Taf Morgannwg wedi’i lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Os hoffech siarad ag aelod o’r tîm Ymchwil a Datblygu, gallwch gysylltu â nhw ar:

Ffôn: 01443 443421 neu E-bost: CwmTaf.R&D@wales.nhs.uk